Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cyflawni ymosodiadau rhywiol ar blentyn am nifer o flynyddoedd.
Ymosododd Peter Brock, 60 oed o Ynysforgan, yn rhywiol ar y dioddefwr drwy ei gyffwrdd ac achosi iddo ymgymryd â gweithgarwch rhywiol pan oedd rhwng 9 ac 11 oed.
Dylanwadodd Brock ar y plentyn er mwyn sicrhau na fyddai'n dweud wrth neb am y cyffwrdd rhywiol. Fodd bynnag, flynyddoedd yn ddiweddarach, bu'r dioddefwr yn ddigon dewr i ddweud wrth rywun am yr hyn a ddigwyddodd.
Ar ôl pledio'n ddieuog, cafwyd Brock yn euog o saith achos o gyffwrdd rhywiol ac annog plentyn o dan 13 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 13 blynedd estynedig yn y carchar. Mae'n destun gorchymyn atal yn erbyn y dioddefwr, ac yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol.
Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Zowie Martin:
“Cyflawnodd Peter Brock batrwm o ymddygiad iasol yn erbyn plentyn diamddiffyn.
“I wneud pethau'n waeth, gwnaed i'r plentyn deimlo mai ef oedd ar fai am yr hyn a wnaeth Peter Brock iddo, oherwydd y pethau a ddywedodd wrtho mewn ymgais i osgoi unrhyw ganlyniadau am ei weithredoedd.
“Rydym yn canmol dewrder y dioddefwr i godi ei lais, ar ôl byw gyda'r profiad erchyll hwn am flynyddoedd. Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid iddo ofni Peter Brock mwyach.”