Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn – un o Abertawe a'r llall o Lundain – wedi cael eu carcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Roedd Osman Ishmail, 38 oed o ganol dinas Abertawe, a Mustafa Daud, 43 oed o Silvertown, Llundain, yn teithio mewn car a gafodd ei stopio gan swyddogion ym mis Chwefror wedi i gudd-wybodaeth nodi bod y cerbyd yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.
Ni ddaeth swyddogion o hyd i gyffuriau yn y car, ond daethpwyd o hyd i ffôn dros dro, yr oedd y ddau ddyn yn honni nad oedd ganddynt unrhyw wybodaeth amdano. Cafodd y ffôn ei atafaelu, a chadarnhawyd yn ddiweddarach, drwy lawrlwytho'r SIM, ei fod yn gysylltiedig â llinell gyffuriau “Marcus”.
Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, aeth y ddau ddyn i orsaf heddlu Canol Abertawe gyda defnyddiwr cyffuriau, wedi iddynt ddweud wrtho am honni mai ef oedd perchennog y ffôn. Roeddent wedi cynnig canabis i'r dyn yn gyfnewid am honni mai ef oedd perchennog y ffôn.
Mae Osman Ishmail wedi cael ei ddedfrydu i bum mlynedd a chwe mis yn y carchar. Mae Mustafa Daud wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Howarth:
“Sylweddolodd Osman Ishmail a Mustafa Daud eu bod wedi cael eu dal pan ddaeth swyddogion o hyd i'w ffôn dros dro yn eu cerbyd, a gwnaethant greu cynllun yn gyflym er mwyn ceisio atal swyddogion rhag canfod eu llinell gyffuriau. Yn ffodus, ni wrandawodd y swyddogion arnynt.
"Bu'r ddau ddyn yn rhan sylweddol o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A, sef heroin a chocên yn bennaf. Mae'r niwed y mae'r ddau gyffur hyn yn ei achosi i fywydau pobl yn ein cymunedau, yn ddefnyddwyr a'r bobl o'u cwmpas, yn ddifesur.
“Mae'n amlwg nad yw'r ddau ddyn hyn yn poeni dim am hynny – yr arian sy'n dod i mewn yw'r unig beth sydd o bwys iddynt. Nid oes croeso i bobl fel hyn yn ein cymdeithas a byddant nawr yn treulio blynyddoedd o'u bywydau yn y carchar.”