Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl gadael cerbyd arall ar ei do ar yr M4 drwy yrru'n beryglus.
Roedd Kyron Farrell, 31 oed o Mayhill, wedi trefnu i fynd i achlysur ceir mawr yn cynnwys tua 100 o bobl ar Heol Milland, Castell-nedd ym mis Mawrth eleni. Cafodd ei weld gan swyddogion yn gyrru am yn ôl ar y ffordd ymadael o'r A474 cyn gyrru i ffwrdd ar gyflymder tuag at Stockham's Corner, lle yn hytrach na ddefnyddio'r cylchfan, gwnaeth dro pedol i fynd yn ôl ar y ffordd A.
Ymunodd â'r A465, lle gyrrodd ar gyflymder o hyd at 110mya er mwyn ceisio dianc rhag yr heddlu. Ar ôl mynd drwy olau coch ac yn gyrru mewn cylchoedd ar y cylchfan yn Llandarsi, ceisiodd deithio tua'r gorllewin ar hyd y ffordd gerbydau tua'r dwyrain.
Wrth i swyddogion geisio stopio cerbyd Farrell, gwrthdarodd â Nissan Micra a oedd yn mynd heibio, gan droi'r Micra drosodd ac achosi iddo rolio nes iddo stopio ar ei do yn y ffordd gerbydau.
Gadawodd Farrell a thri ffrind y cerbyd a gwnaethant geisio ffoi. Daeth ci'r heddlu o hyd i Farrell yn fuan wedyn, yn cuddio mewn tyfiant gerllaw.
Plediodd Farrell yn euog i yrru cerbyd modur yn beryglus a gyrru heb yswiriant.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar. Cafodd ei wahardd rhag dal trwydded yrru am dair blynedd ac wyth mis.
Dywedodd y Rhingyll Daniel Kathrens:
“Roedd ffordd Kyron Farrell o yrru nid yn unig yn dwp; roedd hefyd yn beryglus iawn, gan iddo yrru drwy olau coch sawl gwaith a gyrru ar gyflymder gwarthus er mwyn ceisio dianc rhag yr heddlu.
“Mae'n wyrth bod y ddau unigolyn diniwed yn y cerbyd a oedd ar ei do wedi gadael heb anafiadau pellach, a gall Kyron Farrell gyfri ei fendithion mai dyna a ddigwyddodd.
“Roedd ei ffordd o yrru hefyd yn peri risg i ddiogelwch ei ddau deithiwr, yn ogystal â defnyddwyr eraill y ffordd. Carchar yw'r unig ganlyniad rhesymol iddo.”