Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei garcharu ar ôl ei gael yn euog o droseddau rhywiol yn erbyn dau ddioddefwr gwahanol.
Roedd Geoffrey Jones sy'n 37 oed, o Lanelli, yn destun ymchwiliad am honiadau ar wahân gan ddioddefwr pan ddatgelodd ei bod wedi cael ei threisio gan Jones ar sawl achlysur rhwng 2017 a 2019.
Ar yr un pryd, gwnaeth dioddefwr arall adfer ei hachos, lle bu ymgais i'w threisio yn ystod noson allan yn Abertawe yn 2015.
Mae Jones wedi cael ei euogfarnu o bedwar cyhuddiad o dreisio mewn perthynas ag un dioddefwr ac un cyhuddiad o ymgais i dreisio a threiddio byseddol mewn perthynas â'i ddioddefwr arall. Mae wedi cael ei ddedfrydu i 12 blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Penny Romanello:
"Mae Geoffrey Jones yn droseddwr rhyw peryglus iawn a gymerodd mantais o ddioddefwyr sawl gwaith ac na ddangosodd unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd ar unrhyw adeg.
"Mae un o'r dioddefwyr, a gafodd ei threisio ar sawl achlysur gan Geoffrey Jones, yn parhau i gael hunllefau am ei weithredoedd ac yn dioddef o byliau o banig ac ôl-fflachiau.
"Rydym yn gobeithio y bydd y dioddefwyr nawr yn gallu dod i delerau â'u profiadau trawmatig gan wybod bod Geoffrey Jones yn dechrau ar gyfnod sylweddol o amser yn y carchar."