Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl cyflawni lladrad yn defnyddio cyllell lle gwnaeth glymu aelodau o deulu yn eu cartref eu hunain.
Roedd Larry Black, 38 oed o Waunarlwydd, yn un o ddau ddyn a oedd yn gwisgo mygydau a aeth i mewn i'r eiddo ar Heol Pentyla, Llansamlet, â morthwyl a chyllyll.
Aeth y dynion â set o allweddi a £500 yn ystod y digwyddiad.
Yn ystod y cyfweliad ar ôl arestio Black yn ddiweddarach ym mis Mawrth, cyfaddefodd ei fod wedi bod yn rhan o'r digwyddiad, a phlediodd yn euog i achos o ladrata ym mis Ebrill.
Cafodd Black ddedfryd estynedig o 13 mlynedd yn y carchar. Nid yw wedi datgelu enw ei gyd-droseddwr hyd yma.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Jonathan Holding:
“Mae Larry Black yn droseddwr peryglus sy'n fwy na pharod i ddefnyddio cyllyll ac arfau eraill fel ffordd o fygwth ei ddioddefwyr.
“Achosodd ymddygiad bygythiol Black a'i gyd-droseddwr i aelodau o deulu ofni nad oeddent yn ddiogel yn eu cartref. Nid yw Larry wedi datgelu enw ei gyd-droseddwr, sy'n dangos nad yw'n gallu gwneud y peth iawn.
“Nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch am ei weithredoedd. Felly, bydd Larry Black yn treulio blynyddoedd o'i fywyd yn y carchar.”