Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddal yn cyfnewid negeseuon rhywiol â chyfrif ffug yr oedd yn ferch 14 oed yn ei dyb ef.
Plediodd Guy Brigdale, 34 oed o Fforestfach, yn euog i nifer o droseddau yn dilyn anfon y negeseuon ym mis Ionawr eleni, a oedd yn cynnwys:
• Ymgais i gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn
• Ymgais i achosi/ysgogi merch 13-15 oed i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol
• Ymgais i achosi plentyn 13-15 oed i wylio/edrych ar lun o weithgarwch rhywiol
• Ymgais i gyfarfod â phlentyn o dan 16 oed ar ôl meithrin perthynas amhriodol ar-lein â hi
• Torri Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol
Ar gyfer yr holl droseddau, cafodd Brigdale ddedfryd estynedig o 12 mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Samuel Stanway:
"Roedd y negeseuon a gafodd eu hanfon gan Guy Brigdale, i unigolyn a oedd yn blentyn yn ei dyb ef, yn ffiaidd.
"Nid oes lle i unrhyw un sy'n cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn yn ein cymdeithas. Mae'n ffodus iawn nad plentyn go iawn oedd yn rhan o'r sgwrs, gan y byddent wedi bod mewn perygl gwirioneddol wrth siarad â rhywun fel Guy Brigdale.
"Carchar yw'r unig le ar ei gyfer, ac mae ei ddedfryd hir yn dyst o hyn."