Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Ar 16 Rhagfyr 2024, cafodd Heddlu De Cymru wybod am gorff dyn yn ymddangos ar y lan yn ardal Gŵyr yn Abertawe, rhwng Slade Bay a Green Meadow Pleasure Park. Ers hynny, mae swyddogion wedi methu â'i adnabod.
Roedd y dyn yn gwisgo gwregys lledr du, pâr o sanau du ac esgidiau cerdded Magnum, maint 9. Nid oes unrhyw farciau amlwg eraill er mwyn helpu'r Heddlu gyda'r broses o adnabod y dyn hwn.
Mae Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda heddluoedd eraill yn y DU a thu hwnt a hyd yma, ni chafwyd unrhyw gyfatebiadau gan y DNA a gafwyd o'r corff. Cafodd y corff ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 6tf o daldra a gyda lled ysgwydd o 20 modfedd.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am unrhyw wybodaeth newydd mewn perthynas â hunaniaeth y dyn hwn. Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2300426894.