Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wythnos diwethaf, gwelodd gwylwyr Coronation Street ar ITV Mason Radcliffe yn brwydro am ei fywyd ar ôl i'w frodyr ymosod arno'n ffiaidd gyda chyllell zombie.
Yn yr olygfa ddramatig, roedd Mason mewn cyflwr difrifol wael ar ôl cael ei drywanu gan ei frodyr, Matty a Logan.
Datblygodd y llinell stori pan gafodd lluniau eu dangos i Mason o safle trosedd marwolaeth cymeriad arall a ddatgelodd mai ei frodyr oedd y llofruddwyr.
Roedd Mason yn benderfynol o sicrhau bod ei frodyr yn cael eu dal, a chwiliodd eu fflat a darganfod helmed o'r Ail Ryfel Byd a oedd yn cyfateb i'r un a oedd wedi ei rhestru yn ffeil achos Becky, ac aeth â'r helmed i orsaf yr heddlu. Aiff y brodyr ati i chwilio am Mason, yn benderfynol o ddial arno.
Caiff Mason ei drywanu gan ei frodyr, ac wrth i'r newyddion am y trywanu ledaenu ar y stryd, mae'r holl gymuned yn cael braw, gyda'r digwyddiad yn effeithio ar bawb.
Mae'r llinell stori yn tynnu sylw at y canlyniadau trasig y gall cario cyllell eu hachosi.
Er bod lefelau troseddau cyllyll yn parhau i fod yn gymharol isel yn Ne Cymru, mae un digwyddiad cyllell un yn ormod. Drwy ddewis cario cyllell, byddwch yn llawer mwy tebygol o gael eich anafu gan un eich hun.
Mae ymgyrch #DdimYrUn yn ymgyrch wedi'i hariannu gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Uned Atal Trais Cymru a Heddlu De Cymru.
Mae'n defnyddio dull ymyrryd yn gynnar o atal troseddau sy'n ymwneud â chyllyll, gan gefnogi oedolion y gellir ymddiried ynddynt, yn cynnwys rhieni, athrawon, swyddogion yr heddlu a gweithwyr ieuenctid, i addysgu plant a phobl ifanc 11 i 16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Mae bob amser ffordd i fyw bywyd heb gyllyll. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd chi neu fywyd rhywun rydych yn ei adnabod, does dim rhaid i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.
Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi am eich pryderon. Ceir rhagor o wybodaeth, yn ogystal ag adnoddau'r ymgyrch yn Cymorth a chyngor - DdimYrUn.