Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cwrdd ag aelod mwyaf newydd Heddlu De Cymru – Harrison, sy'n 12 oed.
Cafodd y bachgen ifanc o'r Barri driniaeth VIP wrth iddo ymweld â'n pencadlys, gan roi cynnig ar bopeth o anfon swyddogion allan i gymryd mowldiau o olion traed.
Gwnaeth argraff fawr ar ein tîm o swyddogion trin cŵn, a roddodd groeso iddo fel ychwanegiad anrhydeddus i'w tîm.
Digwyddodd yr ymweliad drwy hosbis plant Tŷ Hafan, a ofynnodd i'r PCSO lleol, Leanne Williams, i helpu Harrison gyflawni ei freuddwyd o ymuno â'r heddlu. Mae Harrison, sy'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Whitmore, yn byw gyda chyflyrau prin sy’n effeithio ar y galon, ymennydd a’r arennau.
Cafodd y carped coch ei rolio allan i Harrison, a wnaeth ymweld ag amrywiaeth o adrannau gan gynnwys yr adran gŵn a'r adran geffylau, yr uned ymchwiliadau gwyddonol ar y cyd, a'r ystafell reoli, lle caiff cysylltiadau brys a galwadau nad ydynt yn rhai brys eu trin.
Roedd wrth ei fodd o gael ei groesawu i'r Pencadlys gan y Prif Gwnstabl, Jeremy Vaughan, ar ôl iddo gael ei hebrwng o'r ysgol mewn car heddlu.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Esboniodd PCSO Williams, sydd wedi meithrin cydberthynas cryf gyda Tŷ Hafan dros y blynyddoedd, a drefnodd ymweliad Harrison:
"Rwyf wedi meithrin cydberthynas da gyda'r staff yn Hosbis Tŷ Hafan, a chysylltodd Emily, sy'n aelod o'r staff â mi i ofyn a allwn i helpu i wireddu dymuniad Harrison o gyfarfod â chŵn yr heddlu.
"Roeddwn wir eisiau helpu i wneud hyn yn brofiad arbennig i Harrison. Rwyf mor ddiolchgar i'm cyd-weithwyr sydd wedi fy helpu i wneud ymweliad Harrison yn un mor arbennig. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn ochr arall i blismona – dwi wrth fy modd yn fy swydd a byddaf bob amser yn ceisio mynd y filltir ychwanegol i'r gymuned.
"Ar ôl yr ymweliad roeddem yn teithio yn ôl i'r Barri i fynd â Harrison gartref a dywedodd ei fod wedi bod yn ddiwrnod anhygoel. Yr hyn nad oedd Harrison yn ei sylwi oedd fod ei wylio yn gwenu ac yn byw ei freuddwyd wedi golygu iddo fod yn ddiwrnod anhygoel i mi hefyd. Ni fyddaf byth yn anghofio'r diwrnod hwn.
"Mae wir yn fachgen arbennig - ac mae pob plentyn yn haeddu cael ei feuddwyd wedi'i gwireddu."
Cafodd Harrison anrhegion hefyd, gan gynnwys ei helmed plismon ei hun, fest 'tac' gwelededd uchel, amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys bathodynnau a llun wedi'i fframio yn ei ddangos fel swyddog trin cŵn.
A dywedodd mam Harrison, Hazel, ei fod methu aros i ddangos ei anrhegion i'w ffrindiau ac i ddweud wrthynt am y profiad a gafodd.
Mae Hazel wedi diolch i bawb a helpodd i wneud profiad VIP Harrison yn un mor gofiadwy, gan ddweud:
"Cafodd ddiwrnod anhygoel ac fel mam, ni allaf ddiolch digon i chi i gyd am y caredigrwydd a'r ymdrech rydych wedi dangos iddo.
"Mae'n golygu popeth i weld fy machgen bach, sydd wedi bod drwy fwy na phlant arferol, nid yn unig yn gweld ei freuddwydion yn cael eu gwireddu, ond yn cael y fath groeso gennych chi a'r tîm."
Dywedodd yr Arolygydd Abi Biddle, sydd wedi treulio'r tair blynedd diwethaf fel arolygydd plismona lleol yn ardal PCSO Williams:
"Roedd yn fraint ac yn anrhydedd i allu gwneud hyn i Harrison. Ni fyddwn yn gwneud rhywbeth fel hyn yn aml iawn, ond gwnaeth ddod a'r gorau allan o'n timau, a gymerodd yr amser i esbonio eu gwaith i Harrison a dangos popeth iddo a sut y gallai eu helpu.
"Rwyf eisiau diolch yn arbennig i Leanne am bopeth y mae wedi ei wneud i drefnu'r ymweliad hwn. Mae wedi gweithio'n ddiflino i drefnu'r diwrnod – mae wedi bod yn angerddol iawn ac mae'n cynrychioli'r gwaith arbennig y mae'n ei wneud yn y gymuned."