Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o droseddau lluosog gan gynnwys ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, a gwneud bygythiadau i ladd.
Cafodd Marcus Hadley, o Gasnewydd, ei arestio yng Nghaerdydd ar ôl i'r dioddefwr wneud galwad 999 o'i hystafell ymolchi wedi'i chloi.
Roedd Hadley, 35 oed, wedi ymosod arni, a bygwth arllwys dŵr berwedig drosti.
Cyrhaeddodd yr heddlu a chafodd Hadley ei arestio yn y fan a'r lle.
Yn dilyn cael ei arestiad, datgelodd ymholiadau y bu Hadley yn ymddwyn yn rheolaethol ac yn orfodaethol a bod hyn wedi achosi i'r dioddefwr ofni y byddai'r trais hwn yn cael ei defnyddio yn ei herbyn.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, PC Ffion Robinson o Heddlu De Cymru:
“Mae dwy flynedd o drais corfforol ac emosiynol wedi arwain at ymosodiad erchyll ar y dioddefwr ar 4 Gorffennaf 2024. Roedd hi'n ofni am ei bywyd a, diolch byth, galwodd 999.
“Yn ystod yr ymosodiad, cafodd y dioddefwr ei chnoi ar ei boch, a chael cyllell wrth ei gwddf.”
Gwadodd Hadley y troseddau, ond yn dilyn treial yn Llys y Goron Casnewydd ym mis Tachwedd 2024, cafodd ei ganfod yn euog o ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol, ymosodiad drwy daro, ymosodiad gan achosi niwed corfforol gwirioneddol arni, a gwneud bygythiadau i ladd.
Cafodd ei ddedfrydu yn yr un llys ddoe (Dydd Llun 6 Ionawr) i bum mlynedd yn y carchar am y bygythiadau i ladd, gyda dedfrydau i gydredeg am y troseddau eraill.
Ychwanegodd PC Robinson:
“Mae'r dioddefwr wedi bod yn ddewr drwy gydol y profiad hwn a'r broses yn y llys, ac rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn ei galluogi i adfer ei hyder.
"Mae'r pŵer sydd gan ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol yn golygu y gall unrhyw un, ni waeth beth fo oedran, rhywedd, rhywioldeb a phroffesiwn yr unigolyn, fod yn ddioddefwr.
“I'r byd y tu allan, gall troseddwyr ymddangos yn aml fel pobl hyfryd a hoffus. Gall dioddefwyr boeni na fyddant yn cael eu credu, neu deimlo embaras, neu eu bod wedi arwain eu hunain i mewn i'r sefyllfa.
“Os byddwch mewn perthynas gamdriniol, p'un a yw'r troseddwr yn bartner i chi neu yn aelod o'ch teulu, peidiwch â meddwl am hynny, rhowch wybod amdano. Mae cymorth ar gael ac mae gennym swyddogion arbenigol a fydd yn helpu.”
Cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.