Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd prif aelod llinell gyffuriau 'Omari' ei garcharu heddiw.
Bu Amara Harris, 22 oed, yn cymryd archebion am grac cocên a heroin ac yn cwrdd â'i gwsmeriaid i roi'r cyffuriau iddynt, ar ôl eu targedu â negeseuon mewn swmp rhwng mis Ebrill 2024 a mis Gorffennaf 2024.
Yn dilyn dadansoddiad fforensig o ddata ffôn, aeth swyddogion i siop ym Mhontcanna, Caerdydd, lle prynodd Amara fwy o gredyd ar gyfer ei ffôn ar 14 Mehefin. Cafodd y swyddogion ddeunydd fideo CCTV o'r digwyddiad a gwnaethant adnabod Harris fel y dyn yn y siop.
Mae'r deunydd fideo CCTV hefyd yn ei ddangos yn y cyrraedd y siop mewn car Audi du – er nad oes ganddo drwydded yrru.
Achubodd swyddogion ar eu cyfle ar 16 Gorffennaf, pan wnaethant ymholiadau arestio mewn tŷ ar Bedford Street, y Rhath.
Roedd Amara Harris yn y tŷ, ynghyd a'r ddyfais a oedd yn gysylltiedig â'r llinell gyffuriau, cloriannau digidol a miloedd o bunnoedd mewn arian parod.
Cafodd ei arestio a'i gyhuddo, a phlediodd yn euog i ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin ac am yrru heb drwydded nac yswiriant.
Ddydd Llun, 27 Ionawr, cafodd Harris ei garcharu yn Llys y Goron Merthyr Tudful am 41 mis.
Roedd Amara Harris yn un o 25 o bobl a gafodd eu harestio yn ystod mis Gorffennaf (2024) gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro. Yn ystod yr ymgyrch atal, atafaelwyd chwarter cilogram o grac cocên a £17,000 mewn arian parod. Cafodd cyfanswm o 21 o linellau cyffuriau hefyd eu hatal rhag masnachu.
Llun dalfa'r heddlu o Amara Harris.