Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dydd Llun 27 Ionawr oedd Ddiwrnod Cofio'r Holocost, pan wnaethom gofio am y rhai a gafodd eu llofruddio yn ystod yr Holocost, grwpiau eraill a gafodd eu herlid gan y Natsïaid a'r hil-laddiadau mwy diweddar yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.
Nodwyd yr achlysur drwy gynnal nifer o weithgareddau ym Mhencadlys yr Heddlu. Yn ystod y bore, gwahoddwyd cydweithwyr i gyfrannu nodiadau myfyrio byr i arddangosfa goffa yn amlinellu Fflam Goffa'r Holocost.
Yn y prynhawn, arweiniodd cyn-Gaplan Heddlu De Cymru, y Parchedig Robert Coyne, a'r Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis 30 munud o fyfyrdod cyn cynnal dwy funud o dawelwch gyda chydweithwyr er cof am ddioddefwyr hil-laddiad.
I gloi’r gweithgareddau, cynhaliwyd gwasanaeth coffa byr, dan arweiniad y Parchedig Coyne a’r Dirprwy Brif Gwnstabl Mark Travis unwaith eto.
Fel arwydd o goffâd ac undod, cafodd Pencadlys yr heddlu ei oleuo mewn porffor ar nos Lun 27 Ionawr.
Ceir rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Cofio'r Holocost ar wefan Diwrnod Cofio'r Holocost.
Yn ystod yr achlysur hwn, cawn ein hatgoffa nad yw troseddau casineb byth yn dderbyniol. Os byddwch yn wynebu trosedd casineb ac yn dymuno rhoi gwybod i ni, gallwch wneud hynny yma.