Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn draddodiadol, mae'r Nadolig yn gyfnod prysur i'r gwasanaethau brys – ac nid oedd y cyfnod sydd newydd fod ddim gwahanol, gyda staff yr ystafell reoli a swyddogion yn ymdrin â mwy na 13,500 o alwadau ffôn a chysylltiadau ar-lein dros 10 diwrnod yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Rydym wedi diolch i'n cydweithwyr a fu'n gweithio dros gyfnod yr ŵyl am eu hymdrechion, ac atgoffwyd y cyhoedd hefyd am yr opsiynau amgen sydd ar gael i roi gwybod am achosion ar-lein yn hytrach na defnyddio llinell 101.
Rhwng 23 Rhagfyr a 1 Ionawr, cafwyd cyfanswm o 5,698 o alwadau ffôn brys, 5,340 o alwadau ffôn nad oeddent yn rhai brys a 2,551 o gysylltiadau ar-lein. Mae hynny'n cyfateb i ryw un cyswllt bob munud.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dean Thomas, rheolwr y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus:
“Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb am eu hymdrechion, wrth sicrhau ein bod yn gallu ymateb i alwadau pobl am gymorth unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
“Rydym yn cydnabod bod plismona yn wasanaeth sy'n gweithredu 24/7, ond mae hynny'n golygu bod rhai aelodau o staff yn colli'r cyfle i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd er mwyn gwasanaethu'r rhai y gall fod angen help arnynt.
“Mae ein staff hefyd yn feibion ac yn ferched, yn rhieni, yn frodyr a chwiorydd ac yn ffrindiau, ond nid oes unrhyw amheuaeth ynghylch eu hymroddiad i'w rolau, hyd yn oed pan fydd pobl eraill yn brysur yn dathlu.
“Boed hynny'n staff yn ein hystafell reoli, yn swyddogion rheng flaen, neu'n unrhyw rôl blismona arall, rydym yn gwybod y gall fod angen ein help ar bobl unrhyw bryd, ac felly mae'n bwysig eu bod yn gwybod ein bod ni yno iddynt.”
Mae Heddlu De Cymru hefyd yn cynnig opsiynau ar gyfer rhoi gwybod am achosion ar-lein neu ar gyfer llenwi ffurflenni cyswllt ar wefan yr heddlu, sy'n galluogi pobl i roi gwybod am droseddau nad ydynt yn rhai brys, cyflwyno gwybodaeth am ddigwyddiadau penodol, neu gyflwyno amrywiaeth o geisiadau gan ddefnyddio'r ffurflenni pwrpasol.
Ceir hefyd opsiwn sgwrs fyw 24/7 lle gallwch sgwrsio ar-lein ag un o weithredwyr yr ystafell reoli – sef yr aelodau hynny o staff sy'n ateb galwadau 999 neu 101 hefyd.
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Thomas:
“Mae'n rhaid i ni bob amser flaenoriaethu'r digwyddiadau mwyaf brys, ac os yw'n argyfwng – gan gynnwys lle bo risg uniongyrchol bosibl i fywyd, neu os bydd trosedd yn digwydd ar y pryd, dylech bob amser ffonio 999.
“Ar gyfer yr achosion hynny nad ydynt yn rhai brys, gallwch ddefnyddio'r adnoddau rhoi gwybod ar ein gwefan. Caiff adroddiadau a dderbynnir yn y modd hwn eu trin yn union yr un fath â phetaech wedi ffonio 101, ond mae'n helpu i gadw'r llinellau ffôn yn rhydd ar gyfer y rhai hynny y mae'n well ganddynt ffonio.”