Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae datblygwr tai cenedlaethol wedi'i ganfod yn euog o niweidio brochfa moch daear sefydlog yn Churchlands, Llys-faen, Caerdydd.
Mae Redrow Homes wedi cyfaddef ei euogrwydd o niweidio Brochfa Moch Daear weithgar, fawr a sefydlog yn ystod ei ddatblygiad yn Churchlands, Caerdydd.
Cafodd Redrow Homes ganiatâd cynllunio i adeiladu dros 1,000 o dai, mannau agored ac ysgol yn Churchlands yn ardal Llys-faen yng ngogledd Caerdydd.
Roedd brochfa moch daear fawr a sefydlog yng nghanol yr ardal ddatblygu, a nodwyd gan Redrow yn 2012 yn ystod gwaith cwmpasu cychwynnol ar y safle. Roedd y frochfa yn gwbl weithgar ac yn cael ei defnyddio gan gymuned o foch daear hyd at heddiw.
Er bod ganddo ecolegydd, niweidiodd Redrow Homes y frochfa moch daear drwy gloddio sylfeini ar gyfer tŷ sengl mawr â phedair ystafell wely o fewn pedwar metr i fynedfeydd y frochfa.
Nid oedd ganddynt drwydded i amharu ar y frochfa moch daear, a dim ond gwneud cais ar ôl i Ecolegydd yr Awdurdod Lleol fynd at y datblygwr gan dynnu ei sylw at y ffaith ei fod wedi anwybyddu deddfwriaeth yn ymwneud â Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn fwriadol.
Yn dilyn ymweliad â'r safle gan swyddogion yr heddlu ym mis Chwefror 2024, roedd aflonyddu pellach wedi digwydd gan fod ffos wedi cael ei chloddio, gan beri i ddŵr llifogydd fynd i mewn i siambrau'r frochfa. Mis Chwefror yw'r adeg y gellir disgwyl i frochfeydd moch daear gartrefu cybiaid newydd-anedig. Bydd y weithred hon wedi cael canlyniadau dinistriol ar gylch bridio'r frochfa am y flwyddyn.
Dywedodd Mark Powell, Cwnstabl yr Heddlu sydd ar secondiad gyda thîm Rheoleiddio Diwydiant Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):
"Mae swyddogion o CNC yn gweithio'n llwyddiannus gyda heddluoedd ledled Cymru, a'r Uned Troseddau Bywyd Gwyllt Genedlaethol i ymchwilio i'r rhai sy'n gyfrifol am gyflawni troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad a'u herlyn.
“Yn yr achos hwn, mae Redrow Homes wedi cyfaddef ei fod yn euog ac ymdriniwyd ag ef yn ffurfiol drwy Ddatrysiad Cymunedol. Fel rhan o delerau'r Datrysiad hwn, collodd Redrow y cyfle i adeiladu'r tŷ sengl a hysbysebwyd ar werth ar ei wefan ei hun am £567,000. Cytunodd hefyd i gomisiynu'r gwaith o adeiladu brochfa moch daear artiffisial ar ei gostau ei hun, a oedd yn agosáu at £25,000, mewn lleoliad diogel hefyd ar dir y mae'n berchen arno. Mae'r frochfa honno bellach yn weithredol hefyd.
“Rwy'n croesawu'r cydweithrediad gan Redrow Homes. Gwnaeth dderbyn ei gam a gweithiodd er mwyn datrys ei ymddygiad troseddol. Yn ffodus, mae'r frochfa wreiddiol yn weithgar o hyd ac mae'r frochfa artiffisial newydd, sef y cyntaf o'i bath yng Nghymru, hefyd yn gwneud yn dda.
“Gobeithio y bydd Redrow yn gweithio'n fwy gofalus ac yn defnyddio cyngor a chanllawiau Tîm Rhywogaethau ac ecolegwyr Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y canlyniad hwn yn ddefnyddiol iawn i atal eraill rhag cyflawni troseddau yn y dyfodol."
I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol, cysylltwch â llinell Cyfoeth Naturiol Cymru sydd ar agor 24/7 ar 0300 065 3000.
I roi gwybod am drosedd amgylcheddol, ffoniwch 101.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.