Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
GWYLIWCH: Iestyn Raven yn dangos dyrnaid o arian cyffuriau wrth honni ei fod 'heb arian' ac 'mewn trafferth' ar y ffôn gyda'r gwasanaeth Credyd Cynhwysol.
Dyma Iestyn Raven. Cafodd y ffilm hon ohono yn siarad â'r gwasanaeth Credyd Cynhwysol ei darganfod ar ffôn sy'n gysylltiedig ag ef. Yn y fideo, mae'n gafael mewn bwndel o arian parod ac yn esgus mai ffôn yw e, gan ddweud 'Dwi'n brin o arian ar hyn o bryd', gan wneud ystumiau a chwerthin i'r camera.
Arian cyffuriau yw'r arian yn ei ddwylo. Ychydig wedi'r recordiad hwn, cafodd Iestyn Raven ei arestio gan Heddlu De Cymru.
Arweiniodd cyfres o arestiadau cyffuriau eraill y swyddogion at y dyn 24 oed o'r Barri a oedd yn rhedeg llinell gyffuriau 'Ronnie and Reggie', a oedd yn cyflenwi crac cocên a heroin ledled Bro Morgannwg.
Cafodd Raven ei adnabod gan swyddogion ar ôl iddo gael ei ddal ar CCTV yn rhoi data ar un o'r ffonau roedd yn eu defnyddio i werthu cyffuriau.
Cafodd ei arestio ar 30 Medi pan wnaeth swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a Bro Morgannwg ei weld yn sedd teithiwr car a oedd yn aros am fwyd yn McDonalds yn y Barri.
Pan wnaethant chwilio'r tŷ roedd yn byw ynddo, cafodd un o'r ffonau cyffuriau dan ymchwiliad ei ddarganfod mewn drôr wrth ochr gwely. Cafodd crac cocên, heroin, arian parod a dillad drudfawr eu darganfod hefyd.
Cyhuddwyd Raven o ymwneud â chyflenwi heroin, ymwneud â chyflenwi crac cocên a chaffael eiddo troseddol ac yn dilyn hynny, plediodd yn euog.
Ddydd Mercher, 16 Ionawr, ymddangosodd i gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Merthyr Tudful lle cafodd ei garcharu am 40 mis blwyddyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Jones:
"Roedd Iestyn Raven yn gwneud swm sylweddol o arian o ddelio mewn cyffuriau ac yn byw bywyd cymharol foethus ar draul eraill.
"Mae ei ddiystyrwch dirmygus o'r niwed roedd yn ei achosi yn amlwg - yn sicr, dydy e ddim yn chwerthin nawr ac mae'n haeddu bod yn y carchar lle gall fyfyrio ar y llwybr roedd wedi'i ddewis iddo'i hun a'r gofid y mae wedi'i achosi drwy ddelio mewn cyffuriau.
Ychwanegodd, "Gallwch fod yn sicr y byddwn yn defnyddio'r Ddeddf Enillion Troseddau i sicrhau nad yw'n cael budd o unrhyw enillion amheus pan fydd yn cael ei ryddhau."