Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
![]() |
![]() |
Mae dau ddyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael eu carcharu ar ôl bod yn rhan o ladrad yn Abertawe ym mis Tachwedd.
Gwnaeth Brandon Dobbs, 20 oed o'r Castellnewydd, a Morgan Kemble, 20 oed o Fracla, ymosod ar eu dioddefwr gwrywaidd yn Waun Wen, cyn cymryd ei waled a'i ffôn symudol. Cafodd y ddau eu harestio gan swyddogion yn fuan wedi hynny, a phlediodd y ddau yn euog i achos o ladrata ym mis Rhagfyr.
Cafodd y ddau ddyn eu dedfrydu yr wythnos hon i dair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd Brandon Dobbs hefyd chwe mis ychwanegol wrth i'r barnwr weithredu dedfryd ohiriedig flaenorol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Samera Sabir:
“Ni chaiff troseddau treisgar eu goddef yn ein cymunedau, a gweithredodd ein swyddogion yn gyflym i fynd â Brandon Dobbs a Morgan Kemble i'r ddalfa yn dilyn eu hymosodiad ar y dioddefwr.
“Rydym yn gweithio drwy'r amser i ddwyn troseddwyr treisgar i gyfrif, ac mae'r ddedfryd hon yn un o'r enghreifftiau diweddaraf o hyn. Rydym yn gobeithio y byddant yn meddwl yn galed am eu gweithredoedd yn ystod eu cyfnod yn y ddalfa.”