Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Christina Wall, 32 oed o Adamsdown, Caerdydd, wedi cael ei charcharu yn dilyn lladrad yng nghanol dinas Caerdydd ym mis Mai y llynedd.
Gyda dau ddyn, aeth Wall i fyny at y dioddefwr, sef dyn 23 oed o'r Rhath, cyn ei ddyrnu y tu mewn i faes parcio aml-lawr, ei dagu a cheisio cafnu ei lygaid. Dywedodd Wall wrtho hefyd fod ganddynt gyllell, gan fygwth ei ladd oni bai ei fod yn gwagio ei bocedi. Wedyn cymerodd Wall ei ffôn symudol a'i waled.
Plediodd Wall yn euog i ladrad ac mae wedi cael ei dedfrydu i wyth mlynedd a thri mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Carys Davies:
"Roedd hon yn drosedd arbennig o giaidd, am fod Christina Wall a'r lleill wedi cymryd mantais o ddyn ar ei ben ei hun gan ei ddenu i leoliad lle gwnaethant ymosod arno'n dreisgar a dwyn ei eiddo.
"Mae'n rhaid i ni ganmol y dioddefwr am ei ddewrder yn rhoi gwybod i'r heddlu am y mater hwn ac am gydweithredu â'r ymchwiliad o'r dechrau.
"Rydym wedi ymrwymo i leihau troseddau treisgar, a byddwn ni bob amser yn ymchwilio'n drylwyr i achosion o ladrata ar y stryd, gyda throseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. Os byddwch yn profi neu'n dyst i drosedd dreisgar, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.”