Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cynhaliodd yr heddlu chwiliad o dan warant yng nghyfeiriad Jason Carmichael, 36 oed o Gendros, ym mis Rhagfyr, lle daethant o hyd i swm mawr o gyffuriau, arian parod a chyfarpar cyffuriau arall.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 40 mis yn y carchar am fod â chocên, cetamin a chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Jake Reynish:
“Mae unrhyw un sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon yn cyfrannu at system sy'n achosi niwed a gofid yn ein cymunedau.
“Hoffem ddiolch i aelodau o gymuned Gendros a ddarparodd wybodaeth am ymgyrch gyffuriau Jason Carmichael, sydd bellach wedi cael ei garcharu amdani.
“Dylai unrhyw un sy'n ymwneud â masnach gyffuriau anghyfreithlon wybod y bydd ein swyddogion yn eich adnabod, ac y byddwch yn cael eich dwyn i gyfrif.”