Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ganfod â swm mawr o gyffuriau ac arian parod yn ei gerbyd yn ystod gweithgarwch stopio traffig.
Cafodd Saif Ali, 25 oed o ganol y ddinas, ei weld yn teithio ar gyflymder gan swyddogion ar batrôl yn ardal Ffordd Dyfaty ar 27 Hydref 2024.
Ar ôl stopio, cafodd y cerbyd ei chwilio o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau am fod arogl cryf o ganabis yn dod o'r cerbyd, a oedd hefyd wedi cael ei gysylltu ag achosion blaenorol o gyflenwi cyffuriau.
Daethpwyd o hyd i bum bag yn cynnwys powdr gwyn yn ystod chwiliad o gerbyd Ali. Yna, cafodd chwiliad Adran 18 ei gynnal yn ei gyfeiriad cartref, lle daethpwyd o hyd i dri bag bach arall o bowdr gwyn, ynghyd â chloriannau wedi eu gorchuddio â gweddillion gwyn a chwe bag o Taurine. Rhwng y cyfeiriad cartref a'r cerbyd, atafaelwyd cyfanswm o £1,080.00 mewn arian parod.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 28 mis yn y carchar am fod â chocên a chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Dywedodd y Rhingyll Craig Evans:
"Roedd yn amlwg bod Saif Ali yn defnyddio ei gerbyd a'i gyfeiriad cartref er mwyn cyflawni ei ymgyrch cyflenwi cyffuriau.
"Mae'n amlwg mai ei unig ddiddordeb oedd elwa'n ariannol drwy werthu sylweddau anghyfreithlon i eraill, ac nad oedd yn poeni dim am yr effaith y byddai'r sylweddau hynny yn ei chael ar y rhai sy'n eu defnyddio a'r gymuned ehangach.
"Dylai'r ddedfryd hon gael ei ystyried yn neges glir nad yw cyflenwi cyffuriau yn talu. Byddwch yn cael eich adnabod a'ch dal, ac o ganlyniad, byddwch yn mynd i'r carchar."
I gael gwybodaeth am ein Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed ar gyfer 2022-2025, gweler yma: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed 2022-2025 | Heddlu De Cymru