Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dwy fenyw o Gastell-nedd wedi cael eu carcharu am ymwneud ag ymosodiad a lladrad yng nghanol y dref.
Ymosododd Sarah Morgan, 39 oed heb gartref sefydlog, a Gemma Powell, 33 oed o ganol tref Castell-nedd, ar eu dioddefwr, sef menyw 49 oed, y tu allan i safle busnes ar Heol Windsor, Castell-nedd ym mis Hydref. Ar ôl taro'r dioddefwr i'r llawr, cymerodd Gemma Powell fag llaw y dioddefwr cyn dianc gyda'i ffôn symudol.
Mae Morgan wedi cael ei dedfrydu i 21 mis yn y carchar am ladrata, ac mae Powell wedi cael ei dedfrydu i 16 wythnos am achosi gwir niwed corfforol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Bethan Owen:
“Ni chaiff troseddau treisgar eu goddef yn unrhyw le yn ein cymunedau, a bydd Sarah Morgan a Gemma Powell bellach yn wynebu cyfiawnder am eu gweithredoedd.
“Bydd ymosodiadau fel yr un a gyflawnodd Morgan a Powell yn cael effeithiau parhaus ar ddioddefwyr. Rwy'n gobeithio y bydd y ddwy yn defnyddio eu hamser yn y carchar i fyfyrio ar eu gweithredoedd ac yn dod yn aelodau mwy cynhyrchiol o'r gymuned pan fyddant yn cael eu rhyddhau yn y pen draw.”