Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi'u harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.
Cafodd y dynion, 43 a 50 oed o Northampton, eu harestio'r prynhawn yma ac maent yn y ddalfa yn Swydd Northampton.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r fwrgleriaeth y rhoddwyd gwybod amdani tua 12.30am fore ddoe (dydd Llun, 6 Hydref).
Cafodd sawl eitem, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gwpwrdd arddangos yn y prif adeilad.
Mae chwiliadau'n parhau am yr eitemau a gafodd eu dwyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru:
“Mae'r ddau arestiad hwn yn ddatblygiad hynod arwyddocaol yn yr ymchwiliad.
“Hoffem ddiolch i'r amgueddfa am eu cymorth parhaus, i Heddlu Swydd Northampton, ac aelodau o'r cyhoedd a wnaeth ymateb i'n hapêl am wybodaeth.”
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru:
“Rydym yn falch o glywed am y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad. Rydym yn ddiolchgar dros ben i Heddlu De Cymru am ymateb mor gyflym i'r digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw gyda'u hymholiadau parhaus. Unwaith eto, diolch i'n staff, y gymuned leol ac i'r cyhoedd ehangach am eu cymorth wrth i ni ymateb i'r digwyddiad hwn.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500319180.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.