Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dylai rhedeg deimlo'n rhydd, yn ddiogel ac yn gyfartal, ond i lawer o fenywod, mae'r realiti yn wahanol iawn. Bob hydref, wrth i'r clociau fynd yn ôl ac wrth iddi dywyllu'n gynt, mae menywod ledled Cymru yn wynebu pryderon cynyddol am ddiogelwch wrth redeg yn y tywyllwch.
Mae Athletau Cymru, ynghyd â'r pedwar heddlu yng Nghymru, yn lansio Own The Night / Ein Nos Ni, sef ymgyrch genedlaethol i herio'r gwirionedd hwnnw.
Nod yr ymgyrch yw:
Dywedodd Hannah Baulch, Pennaeth Cyfranogiad Athletau Cymru:
Mae twf anhygoel yn nifer y bobl sy'n rhedeg yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda 293,000 o oedolion yn gwneud hynny'n rheolaidd drwy weithgareddau wedi'u trefnu a gweithgareddau anffurfiol.
Mae Athletau Cymru yn falch bod rhedwyr benywaidd wedi cyfrannu at fwy na hanner ein ffigurau aelodaeth ers 2020, ystadegyn sy'n anodd ei ddyblygu mewn chwaraeon eraill.
Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau niferus y mae rhedwyr benywaidd yn eu hwynebu yn ystod misoedd y gaeaf. Mae'n fwy na thywydd oer a ffyrdd llithrig, mae'n ymwneud â diogelwch.
Mae ymchwil gan This Girl Can yn dangos bod bron tri chwarter (72%) y menywod yn y DU yn newid eu gweithgarwch yn yr awyr agored dros y gaeaf, a dangosodd arolwg diweddar gan Our Streets Now fod 93% o fenywod wedi wynebu aflonyddu rhywiol cyhoeddus wrth redeg. Mae'n annerbyniol, ac rydym am gael eich help i wneud newid cymdeithasol.
Neithiwr yn y Senedd, gwnaethom ofyn i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad i wneud ein strydoedd yn fwy diogel, ond rydym am i gymunedau ledled Cymru ddangos eu cefnogaeth hefyd drwy barchu rhedwyr eraill a thynnu sylw at ymddygiad gwael. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Tracey Rankine, pennaeth yr heddlu ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod a Merched yn Heddlu De Cymru:
Mae'n gwbl annerbyniol bod menywod yn newid eu llwybrau rhedeg, yn osgoi rhai lleoliadau neu'n dewis peidio â rhedeg gyda'r nos oherwydd ymddygiad pobl eraill. Mae pawb yn haeddu bod a theimlo'n ddiogel a mwynhau ein mannau cyhoeddus, heb ofn.
Byddwn yn mynychu digwyddiadau parkrun a grwpiau rhedeg i siarad â rhedwyr, a hoffwn roi sicrwydd i bobl y byddwn yn gwrando ar eich pryderon.
Rwy'n annog unrhyw un sy'n profi aflonyddu neu fygythiad i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw bryderon fel y gallwn roi diwedd ar yr ymddygiad hwn.
I Jen Stone, rhedwr o Glwb Rhedeg Heol Albany, mae'r heriau hyn yn rhy gyfarwydd.
Un o'r eiliadau mwyaf dychrynllyd rwyf wedi ei hwynebu oedd ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddwn yn rhedeg ar hyd Cyncoed Road tua 6.30pm yn y gaeaf, ac roedd hi'n dywyll yn barod. Clywais weiddi uchel dros fy nghlustffonau o gar yn llawn dynion ifanc yn chwerthin wrth fynd heibio. Roeddwn yn ofnus ac yn bryderus iawn, ac roeddwn wir yn meddwl bod yr un car yn fy nilyn. Penderfynais gwtogi fy llwybr a rhedais adref cyn gynted ag y gallwn.
Anaml rwy'n rhedeg ar ben fy hun nawr, yn enwedig yn y tywyllwch. Dyna pam ymunais â'r clwb rhedeg, mae'n teimlo'n llawer mwy diogel.
Rwy'n cefnogi ymgyrch Ein Nos Ni yn llawn oherwydd mae pawb yn haeddu teimlo'n ddiogel wrth redeg.
Wrth i'r clociau fynd yn ôl y mis Hydref hwn, bydd ymgyrch Ein Nos Ni yn dod â rhedwyr ynghyd ledled Cymru i gefnogi un gred a rennir: dylai rhedeg deimlo'n ddiogel i bawb, ni waeth faint o'r gloch yw hi.