Stamp amser presennol: 23/06/26 14:57:56
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Gwobrau Tîm Heddlu De Cymru 2025: Y rhestr fer

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 08:45 22/10/2024

Mae Gwobrau blynyddol TîmHDC yn dychwelyd heno, wrth i'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan achub ar y cyfle i anrhydeddu rhai o swyddogion, aelodau o staff a gwirfoddolwyr gorau'r sefydliad, yn ogystal â rhai o'n partneriaid gorau; unigolion a thimau sydd wedi mynd ymhellach na disgwyliadau eu rׅôl.

Dyma gategorïau'r gwobrau a'r bobl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ynddynt:

Ditectif Gwnstabliaid Nicola Easton a Stephen Jenkins

Roedd dyn yr amheuwyd ei fod wedi llofruddio yn rhydd pan oedd DC Jenkins a DC Easton yn cynnal ymholiadau nad oeddent yn gysylltiedig ag ef yn yr ardal. Gwelsant ddyn yn agos at y man lle y cafodd ei weld ddiwethaf ac yn ateb disgrifiad yr unigolyn dan amheuaeth, a heb boeni dim am eu lles eu hunain, gwnaethant gamu i mewn i'w ddal a'i arestio. Yn ddiweddarach, gyda chymorth tyst, daethant o hyd i arf hefyd.

Cwnstabliaid Michael Reid ac Olivia Joy

Wynebodd y swyddogion hyn risg sylweddol o niwed wrth geisio arestio dyn a ddywedodd iddo dorri amodau mechnïaeth. Yn ddirybudd, dechreuodd ddyrnu PC Reid mewn ymosodiad gwyllt.

Defnyddiwyd Taser ond nid oedd yn effeithiol ar yr adeg hon. Cymerodd PC Joy, a oedd yn swyddog dan hyfforddiant ar y pryd, gamau ar unwaith gan dynnu'r dyn oddi ar PC Reid, ac wrth wneud hynny cafodd ei thaflu dros fonet car. Er bod PC Reid wedi dioddef anafiadau difrifol i'w wyneb – cafodd ei drwyn a soced ei lygad eu torri, ac roedd  chwydd i'w lygad de fel na allai ei agor – aeth ymlaen yn ddewr a defnyddiodd ei chwistrell PAVA i atal y dyn rhag ymosod arnynt eto.

Ymateb Tîm 2 dan arweiniad y Rhingyll Peter Williams

Ymatebodd y tîm i adroddiad am aflonyddwch mewn eiddo. Roedd gan y dyn yn yr eiddo sawl marciwr rhybudd am drais, cyffuriau ac arfau. Ar ôl cyrraedd y lleoliad, gwelodd y swyddogion ei fod wedi niweidio ei hun a bod yr eiddo wedi'i ddifrodi'n sylweddol.

Ar ôl gweld y swyddogion, gafaelodd y dyn mewn lif gadwyn a'i chwifio tuag atynt mewn modd bygythiol. Cymerodd y Rhingyll Williams reolaeth o'r sefyllfa, a chyfeiriodd ei dîm i bwyntiau gwahanol o amgylch yr eiddo ac ymgysylltodd â'r dyn. Ar ôl sylweddoli bod angen iddo dawelu'r dyn er mwyn dod â'r digwyddiad i derfyn yn ddiogel, defnyddiodd y Rhingyll Williams ei Taser drwy ffenestr a oedd wedi torri, gan alluogi ei gydweithwyr i fynd i mewn i'r ystafell, cael gafael yn y llif gadwyn a dal y dyn.

Cwnstabl Nick Davies

Mae'r Cwnstabl Nick Davies wedi dangos ymrwymiad sylweddol i wella cydberthnasau rhwng Heddlu De Cymru a'r gymuned Teithwyr. Mae Nick wedi dangos gallu eithriadol i oresgyn yr heriau, gan ddeall pan fydd ei bresenoldeb ar ei fwyaf effeithiol a meithrin deialog ystyrlon. Mae ei rôl yn fwy na phlismona - mae'n ymwneud â meithrin ymddiriedaeth, sicrhau triniaeth deg a bod yn bwynt cyswllt cyntaf cyson i gymuned sy'n aml yn amheus o ymyrraeth gan yr heddlu. Mae ei ymdrechion wedi helpu i ailffurfio canfyddiadau, gan ddangos y gall plismona fod yn gadarn ac yn deg.


Tîm Troseddau Casineb a Chydlyniant Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Nid yw'r enwebiad hwn ar gyfer un digwyddiad penodol ond mae'n cydnabod dull a gwaith caled cyson ac arloesol y tîm. Maent wedi cefnogi llawer o gymunedau gwahanol, yn enwedig mewnfudwyr sy'n setlo yn Abertawe, drwy feithrin cydberthnasau â phartneriaid, grwpiau cymorth ac unigolion eu hunain, sydd wedi cynyddu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona lleol. Mae cwrdd â grwpiau lleiafrifol, gwrando ar eu pryderon, gweithio gyda phartneriaid a chynnal digwyddiadau cymunedol oll wedi arwain at wella dealltwriaeth a chydlyniant ledled  Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.


PCSO Stephen Evans

Mae'r PCSO Evans wedi bod yn allweddol wrth wella ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu ym Mlaen-y-maes.  Ymdrechodd i sefydlu KICKS, sef rhaglen allgymorth wedi'i thargedu at ieuenctid sy'n anelu at greu gofod diogel i bobl ifanc a lleihau troseddu, ac mae'r fenter yn llwyddiannus iawn. Bob nos Iau, mae plant lleol yn chwarae pêl-droed dan oruchwyliaeth eu rhieni, y mae llawer ohonynt wedi bod yn erbyn plismyn, gan fwynhau'r gêm ac yn ymgysylltu â Steve.

Mae hefyd wedi gweithio gydag ysgolion lleol i ddymchwel rhwystrau, gan gydnabod bod llawer o deuluoedd wedi cael rhyngweithiadau anodd â'r heddlu yn flaenorol. Ond nawr, pan ofynnir i'r plant beth yr hoffent fod pan fyddant yn tyfu i fyny, mae llawer ohonynt yn tynnu lluniau o Steve! Mae'n eiriolwr gwirioneddol dros bobl ifanc ac yn sicrhau eu bod pobl yn gwrando arnynt a'u bod yn cael eu clywed. Ac mae'r dull gweithredu hwn yn ymestyn i'r gymuned gyfan ym Mlaen-y-maes – mae'n gwybod enwau pawb, yn deall eu hanghenion, ac mae hyd yn oed yn newid ei shifftiau i'w cefnogi.

Kelly Gwyther, Hyfforddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae gan Kelly angerdd pendant dros gynhwysiant a gwybodaeth amdano, ac mae'n cyflwyno rhaglenni yn cynnwys ‘Diversity Matters Inclusion Wins’ fel rhan o'i rôl. Hefyd, mae'n Hwylusydd Gwybodaeth Ddiwylliannol, yn Hyrwyddwyr Golau Glas, yn Ymatebwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, yn aelod gweithgar o nifer o rwydweithiau cymorth staff, ac yn Eiriolwr Niwroamrywiaeth gwirfoddol.

Kelly sydd wedi cefnogi'r nifer mwyaf o bobl o blith pob eiriolwr hyfforddedig hyd yma. Helpodd lawer o gydweithwyr drwy'r broses i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n llawn yn y gweithle. Hefyd, rhoddodd Kelly gymorth i reolwyr llinell, gan eu helpu i ddeall niwroamrywiaeth ac anghenion unigolion. Mae'n mynd gam ymhellach i sicrhau gweithle cynhwysol.


Y Tîm Ras yn Erbyn Casineb

Ym mis Medi 2024, cynhaliodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Morgannwg Ganol y digwyddiad traws-gwlad cyntaf yn Aberdâr sef ‘Ras yn Erbyn Casineb’.

Gwahoddwyd cant o ysgolion cynradd o Ferthyr a Rhondda Cynon Taf, a chymerodd dros 1,000 o blant ran yn y digwyddiad. Nod y digwyddiad oedd cael hwyl a magu hyder, yn ogystal ag addysgu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynhwysiant a charedigrwydd tuag at bobl yn ein cymunedau, ni waeth beth fo'u hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran ac anabledd. Cafodd ffilm fer ei chynhyrchu yn y cyfnod cyn y digwyddiad gan gynnwys enwogion ac athletwyr, a chafodd ei dangos yn ystod gwasanaethau ysgolion gan gyrraedd cynulleidfa o ryw 25,000 o blant. Helpodd hyn i ymgysylltu â phobl ifanc a chreu brwdfrydedd ar gyfer y digwyddiad.

Roedd angen gwneud llawer o waith trefnu a chydlynu rhwng ysgolion, busnesau ac awdurdodau lleol i gynnal y digwyddiad llwyddiannus a diogel hwn, ond mae wedi talu ar ei ganfed gyda lleihad o 14% mewn troseddau a digwyddiadau yn ymwneud â chasineb ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf.


Ditectif Arolygydd Joanne Jones

Mae Joanne wedi bod yn aelod ymrwymedig ac ymroddedig o'n Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhyw ers sawl blwyddyn a hi yw'r arweinydd iechyd menywod ar hyn o bryd. Sefydlodd y Grŵp Cefnogi Cymheiriaid ar gyfer y Menopos a oedd yn cynnwys sicrhau cyllid i hyfforddi 45 o Hyfforddwyr Menopos.

Mae ei hymrwymiadau di-ildio a'i harweinyddiaeth dosturiol wedi gweld aelodaeth y grŵp yn cyrraedd dros 100 o bobl. Mae Joanne wedi bod yn enghraifft ardderchog o gynnydd, gan herio safbwyntiau sydd wedi dyddio a meithrin diwylliant o gynhwysiant a dealltwriaeth. Hefyd, mae Joanne yn gefnogwr brwd o'r Gweithgor Endometriosis. Mae ei dull rhagweithiol a chadarnhaol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan wella llesiant, perfformiad a chyfraddau cadw staff yn Heddlu De Cymru.

Rhingyll Gwirfoddol Christopher Prosser

Mae Chris yn rhingyll gwirfoddol wedi'i leoli yn Aberdâr. Mae'n arwain tîm o gwnstabliaid gwirfoddol ac yn gweithio gyda swyddogion lleol i ateb y galw lleol. Mae'n gweithio mwy na'i oriau gofynnol yn gyson yn y rôl wirfoddol hon, ar ben swydd llawn amser ac ymrwymiadau teuluol.

Ym mis Awst 2024, sefydlodd Chris Ymgyrch Verus, sef prosiect ar y cyd â'r Ganolfan Yswiriant Modur, a'i chyflawni ar ei ben ei hun. Gwnaeth yn siŵr fod y cerbydau a'r staff sydd eu hangen ar gyfer yr ymgyrch yn barod, bod ei gydweithwyr wedi'u briffio ac ymdriniodd ag unrhyw faterion ar hyd y ffordd. Hyd yma, mae'r ymgyrch hon wedi arwain at atafaelu nifer o gerbydau a gwahardd nifer o yrwyr rhag gyrru, yn ogystal ag erlyniadau am beidio â chael yswiriant, gyrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, a goryrru. Mae'r rhain yn ganlyniadau gwych, diolch i arweinyddiaeth Chris.


Cwnstabl Gwirfoddol Stephen Hiscox

Mae Stephen wedi bod yn gwnstabl gwirfoddol ers 2019 ac mae'n rhan o'r Uned Plismona'r Ffyrdd ar hyn o bryd.

Mae Stephen yn rhoi llawer o'i amser, nid yn unig i'r rôl ei hun ond i hyfforddiant, gan gwblhau cyrsiau fel defnyddio Taser, hyfforddiant gyrrwr 4x4 oddi ar y ffordd, a chwrs swyddog traffig tair wythnos. Cwblhaodd hefyd gyrsiau beic modur yr heddlu safonol ac uwch. Mae'r rhaglenni hyn yn heriol iawn, sy'n dangos pa mor ymrwymedig yw Steve. Mae'n rhoi 100% drwy ymwneud ag ymgyrchoedd rhagweithiol i adnabod troseddu yn ogystal â hyrwyddo diogelwch ar y ffyrdd drwy gymryd rhan mewn gweithdai Bike Safe. Mae Steve yn mynd gam ymhellach yn gyson.


Rhingyll Gwirfoddol James Briggs

Fel ein rhingyll gwirfoddol sydd wedi gwasanaethu hiraf, mae James wedi dangos ymrwymiad di-ildio yn gyson i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae'n rhoi o'i amser yn hael i blismona rhagweithiol, ymgysylltu â chymunedau, cefnogi digwyddiadau critigol, a datblygu swyddogion llai profiadol. At hynny, mae'n gwneud y rhain i gyd gyda phroffesiynoldeb pwyllog ac ymdeimlad cadarn o bwrpas.

Mae James yn gymwys iawn, ac ymddiriedir yno yn aml i arwain ymgyrchoedd ochr yn ochr â swyddogion arferol. Mae ei benderfyniadau dan bwysau yn eithriadol, ac mae ei allu i asesu sefyllfaoedd yn gyflym gan gynnal diogelwch y cyhoedd ar yr un pryd, wedi cael ei gydnabod yn eang gan oruchwylwyr a chymheiriaid. Mae gan James rôl arwain hanfodol yn y Gwnstabliaeth Wirfoddol. Mae'n fodel rôl – yn arwain drwy esiampl, yn cynnal y safonau uchaf, ac yn barod i helpu bob amser.

Ditectif Uwch-arolygydd Matthew Cox

Nododd y Ditectif Uwch-arolygydd Cox fod bwlch yn ein gallu dadansoddol i gefnogi ymchwiliadau mwy cymhleth yn y ffordd orau, yn bennaf sut rydym yn dehongli data cyfathrebu a lawrlwythiadau ar ddyfeisiau digidol. Gan weithio gyda darparwyr allanol, daeth Matt o hyd i gronfa ddata gudd-wybodaeth a fyddai'n llenwi'r bwlch hwn a chyflwynodd achos busnes i brif swyddogion. Dros gyfnod o flwyddyn, gallai'r broses chwilio awtomataidd hon arwain at arbed hyd at 3,276 o oriau.

Ar ôl i'r broses gael ei chymeradwyo, dim ond Matt oedd yn gyfrifol am gaffael y cyfarpar, gan negodi costau i sicrhau gostyngiadau pwysig a galluogi Heddlu De Cymru i brynu 100 o drwyddedau meddalwedd a phecyn hyfforddiant. Mae manteision y gronfa ddata eisoes yn dechrau arwain at sicrhau effeithlonrwydd a chanlyniadau ymchwiliadau cadarnhaol.


Y Tîm Digidol a Chynnwys

Pan gyhoeddodd y frenhines bop, Taylor Swift, y bydd yn mynd i Gaerdydd am ei hunig gyngerdd yng Nghymru, roedd yn gyfle ymgysylltu amlwg ar gyfer y tîm digidol a chynnwys. Gyda chyllideb fach, aeth y tîm ati i weithio ar nwyddau ymgyrch ‘Haf Mwy Diogel’ ar thema Taylor Swift, gan gynhyrchu 700 o freichledi gyda brand yr ymgyrch er mwyn manteisio i'r eithaf ar y duedd o gyfnewid breichledi cyfeillgarwch yn ystod y daith. Rhoddodd y breichledi fan cychwyn da ar gyfer sgwrs i'r swyddogion.

Roedd safbwyntiau'r cyhoedd ar y noson ac ar-lein yn ardderchog, a llwyddodd y postiadau cysylltiedig i ddenu rhai o'r ystadegau ymgysylltu uchaf y flwyddyn honno. Bwydodd hefyd i brosiectau ehangach gan gynnwys penodau Y Tu Ôl i'r Bathodyn a oedd yn canolbwyntio ar blismona digwyddiadau mawr. Cafodd y dull gweithredu hwn ei ganmol gan gydweithwyr cyfathrebu ym maes plismona a'r tu hwnt.


Y Tîm Adnabod Wynebau

Ein Tîm Adnabod Wynebau yw'r arweinwyr cenedlaethol ar gyfer y dechnoleg hon ac mae'n cael ei gydnabod am osod y safonau uchaf. Gwnaethant ddatblygu meddalwedd Adnabod Wynebau Ôl-weithredol, a'r ap Adnabod Wynebau a Gychwynnir gan Weithredwr, sef y cyntaf o'i fath yn y DU a oedd angen ymgynghoriad cyfreithiol i ddatblygu polisi gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Mae'r tîm wedi defnyddio'r dechnoleg Adnabod Wynebau Byw yn lleol a ledled y DU, gan ddangos potensial y dechnoleg ond hefyd y mesurau diogelu cadarn a ymgorfforwyd i'r dechnoleg a'r broses o'i defnyddio. Bu ymgysylltu â'r gymuned a chyfathrebu clir yn allweddol gan arwain at gynnydd sylweddol yng nghefnogaeth y cyhoedd i'r defnydd o dechnoleg a oedd yn ddadleuol. Ers hyn, mae'r tîm wedi datblygu'r platfform a'i ddefnydd ymhellach i dargedu'r rhai sy'n debygol o beri'r risg fwyaf i ddigwyddiadau a'r cyhoedd sy'n mynd iddynt, ac i wella effeithlonrwydd.

Troseddau Mawr

Mae'r enwebiad hwn yn cydnabod y proffesiynoldeb, yr arloesedd a'r penderfyniad a dangosodd y tîm a ymchwiliodd i'r achos trywanu Colin Richards yn angheuol yn Nhrelái ar 7 Ebrill 2024. Sicrhaodd yr ymchwiliad mawr hwn gyfiawnder i deulu yn galaru yn ogystal â dangos y gorau ym maes ymchwilio i droseddau difrifol a chymhleth, gan gynnwys chwiliad cenedlaethol estynedig, gwaith cudd-wybodaeth arloesol a chydweithio amlasiantaethol di-dor. O ganlyniad i ddycnwch y tîm a'i ddull manwl o weithredu cafodd chwe diffynnydd eu herlyn yn llwyddiannus yn y treial.


Tîm 1 y Dwyrain, Adran Ymchwiliadau Troseddol

Yn dilyn cyfres o fwrgleriaethau mewn eglwysi ledled Caerdydd, Bro Morgannwg a Morgannwg Ganol yn ogystal â Gwent, cafodd y lleidr cyson Raymond Weatherley ei ddedfrydu i dair blynedd a dau fis.

Mae hyn o ganlyniad i ymrwymiad y tîm ymchwilio o swyddog a sylweddolodd beth oedd dull gweithredu'r unigolyn dan amheuaeth o achosion blaenorol i gydweithwyr yn olrhain ei symudiadau ar draws ardal ddaearyddol fawr a chymryd camau cudd i fynd ar ei ôl. Roedd eu penderfyniad yn hanfodol wrth gynnal ymddiriedaeth a hyder mewn plismona gan y gymuned yr effeithiwyd arni.


Tîm Ymchwilio i Gamfanteisio Caerdydd a'r Fro

Ym mis Mai 2024, daeth yr heddlu o hyd i ferch yn ei harddegau o Ferthyr Tudful y rhoddwyd gwybod iddynt ei bod ar goll, mewn cyfeiriad yn y Rhath, Caerdydd, lle roedd Najib Arab yn byw. Yn ystod ymchwiliad yr heddlu, datgelwyd bod Arab wedi bod yn meithrin perthynas amhriodol â'r ferch agored i niwed ac yn manteisio arni, drwy gynnig cyffuriau am ddim iddi cyn ei chymell i gyflawni gweithgaredd troseddol.

Roedd hyn yn achos heriol oherwydd bregusrwydd yr unigolyn ifanc ond drwy'r tîm ymchwilio yn meithrin cydberthynas â hi, gan weithio'n agos gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac adeiladu achos cryf, cafodd Arab ei gyhuddo o gadw person mewn caethwasiaeth a bod â chyffuriau Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi. Fe'i cafwyd yn euog a chafodd ei garcharu am saith mlynedd. Mae'r tîm ymchwilio hefyd wedi adnabod pobl ifanc eraill y cam-fanteisiwyd arnynt, a rhoddwyd camau diogelu perthnasol ar waith.

Ditectif Gwnstabl Joanne Williams

Arweiniodd Joanne ymchwiliad cymhleth a arweiniodd at ddedfryd estynedig o 25 mlynedd i Ronald Richards a gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant. Roedd wedi ymosod ar blant ifanc diniwed.

Dangosodd Jo dosturi anhygoel i'r dioddefwyr, gan flaenoriaethu eu llesiant a sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses. Cafodd hyn ei ganmol gan y barnwr yn yr achos, a gydnabu ddull Jo fel arfer gorau, a siaradodd un o'r dioddefwyr yn gyhoeddus am y gwasanaeth neilltuol a gafodd gan DC Williams.


Ditectif Gwnstabl Harri Andrews

Arweiniodd DC Harri Andrews ymchwiliad cymhleth gyda dygnwch ac empathi anhygoel. Datgelodd y gwirionedd tu ôl i gyfres o ymosodiadau rhywiol nad ydynt yn ddiweddar o fewn cymuned glyd. Dechreuodd fel datganiad unigol a ddatblygodd yn ymchwiliad helaeth a dychwelodd mewn sawl cyhuddiad o drosedd rhywiol difrifol yn erbyn y troseddwr sydd bellach yn y carchar.

Drwy waith ditectif manwl, adnabodd DC Andrews sawl dioddefwr, gan weithio gyda nhw a'u teuluoedd i gyflwyno'r cyfiawnder y maent yn ei haeddu.


Ditectif Gwnstabl Nick Woodland

Rhoddodd dioddefwr sy'n agored i niwed wybod iddo ddioddefodd ymosodiad rhywiol a threisio. Gweithiodd DC Woodland yn ddi-flino gyda chydweithwyr i gasglu tystiolaeth a ategodd gyfrif y dioddefwr, er mwyn adnabod yr unigolyn dan amheuaeth ac adeiladu achos cadarn.

Cafodd yr unigolyn dan amheuaeth ei gyhuddo o dair trosedd ond methodd ag ymddangos gerbron Llys y Goron ar gyfer gwrandawiad cyn y treial a chyhoeddwyd gwarant yn ei erbyn. Aeth DC Woodland ati i gynnal ymholiadau estynedig er mwyn dod o hyd i'r unigolyn dan amheuaeth a oedd yn cuddio yng nghyfeiriad aelod o'i deulu. Er iddo bledio'n ddieuog, rhoddwyd dedfryd sylweddol o garchar i'r troseddwr, a gorchymyn atal amhenodol pan fydd yn cael ei ryddhau.

Rhingyll Mark Jones

Mae'r Rhingyll Mark Jones wedi ymrwymo 29 o flynyddoedd o wasanaeth i gymunedau'r Barri ym Mro Morgannwg, gan weithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau partner i feithrin ymddiriedaeth a hyder.

Ochr yn ochr â'i swydd yn ystod y dydd yn ymgysylltu â chymunedau, diogelu, a chanfod troseddau, mae hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau arwain amlwg - gan roi cyngor a helpu gyda deddfwriaeth mewn perthynas â chŵn peryglus, rolau rheoli mewn digwyddiadau mawr, hyrwyddo diogelwch ar hyd yr arfordir yn ystod yr haf, a sefydlu clwb bocsio i bobl ifanc. Mae Mark wedi gweithio'n ddiflino i'w gymunedau lleol.


Rhingyll Daniel Parry

Mae'r Rhingyll Daniel Parry wedi dangos arweinyddiaeth neilltuol yn gyson ac ymrwymiad i ddiogelwch cymunedol drwy ei waith bob dydd yn arwain tîm cymharol fach y mae ei effaith a'i berfformiad yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl.

Mae ei gydweithwyr yn sôn yn gadarnhaol am ei arweinyddiaeth a chaiff ei gydnabod gan uwch-arweinwyr am ei gymhelliant a'i ganlyniadau. Mae ei waith ar fentrau fel ‘Trecco Watch’ a ‘Tackle After Dark’ yn dangos ei allu i arwain ymatebion cymhleth ac aml-asiantaethol i ddatrys materion cymunedol cyson. Mae Dan hefyd yn adnabyddus am ei dosturi a'i uniondeb, gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed yn ei dîm ac wrth weithio gyda phartneriaid, sy'n meithrin diwylliant o barch ac ymrwymiad i nodau a rennir.


Ditectif Arolygydd Robert Chambers

Mae DI Chambers wedi bod yr uwch-swyddog ymchwilio mewn nifer o ymchwiliadau graddfa fawr. Mae ganddo gyfoeth o brofiad a gwybodaeth ac mae ei gydweithwyr yn siarad am y rhyddhad y maent yn ei deimlo pan fyddant yn gweld bod Robert yn arwain ymchwiliad - mae hyn yn cynnwys uwch-reolwyr a swyddogion ar lawr gwlad. Mae ei arbenigedd hefyd wedi cael ei rannu â'r nifer mawr o dditectifs y mae wedi'u cefnogi a'u helpu i hyfforddi mewn cyfnod o bron 30 o flynyddoedd.

Mae arweinyddiaeth DC Chambers wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol mewn nifer o achosion. Mae enghreifftiau'n cynnwys lladdiad mam ifanc yr ymdriniwyd â hi fel unigolyn coll risg uchel i ddechrau; pan adolygodd Robert yr achos, arweiniodd at ddau aelod o'i theulu yn dod yn unigolion dan amheuaeth yn ei diflaniad a chael eu dal cyn iddynt geisio gadael y DU.

Ymgyrch Tecoma

Daeth Tîm Ymgyrch Tecoma ynghyd i adnabod ffyrdd gwell o fynd i'r afael â throseddau llinellau cyffuriau lleol. Croesawodd dechnegau newydd i helpu i gael dealltwriaeth well o dystiolaeth cyfathrebiadau data, gan ei alluogi i adnabod troseddwyr a rhoi achosion tystiolaethol ar waith a sefydlu arfer gwaith cadarn.

Drwy ddefnyddio'r fethodoleg hon yn unig, mae tîm Ymgyrch Tecoma wedi cyhuddo nifer o droseddwyr o droseddau cyflenwi cyffuriau Dosbarth A, wedi llwyddo gyda 43 o euogfarnau gyda chyfanswm o 145 o flynyddoedd o ddedfrydau, wedi ymyrryd ar fwy na 60 o linellau cyffuriau, ac wedi atafaelu symiau mawr o gyffuriau. Mae'r dull hwn bellach yn cael ei ystyried fel arfer gorau, ac mae aelodau o'r tîm yn rhoi cyflwyniadau i dimau a'u huwchsgilio'n aml mewn perthynas â'r fethodoleg a roddwyd ar waith.


Ymgyrch Hertia

Cynhaliwyd protest yng nghanol dinas Caerdydd a chafodd ein Tîm Cymorth Tiriogaethol ei alw i roi cymorth. Ceisiodd y swyddogion ymgysylltu â'r dorf ond roedd y protestwyr yn eu hamgylchynu ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i foddi eu lleisiau. Cafodd y traffig ei stopio.

Gwnaed arestiad a chafodd y dorf ei gwasgaru, ond yn fuan wedyn aeth grŵp mawr o brotestwyr i mewn i Orsaf Heddlu Bae Caerdydd yn mynnu bod y protestiwr a gafodd ei arestio yn cael ei ryddhau. Anfonwyd swyddogion i'r orsaf a gwnaed 16 o arestiadau. Cafodd ymchwiliad ei gychwyn a oedd yn cynnwys adolygu deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a datganiadau gan swyddogion, archwilio deunydd teledu cylch cyfyng, cyfweld â'r diffynyddion, ac adeiladu ffeiliau achos. O ganlyniad i'r 18 o ffeiliau achos a gyflwynwyd, awdurdododd Gwasanaeth Erlyn y Goron 49 o gyhuddiadau. Mae'r enwebiad hwn yn cydnabod y swyddogion yn y protest a'r rhai a gynhaliodd yr ymchwiliad dilynol.


Ymgyrch Maybole

Roedd Ymgyrch Maybole yn ymateb cydgysylltiedig i'r bygythiad llinellau cyffuriau yn Abertawe.

Daeth nifer o dimau gweithredol at ei gilydd i fynd ar ôl troseddwyr a diogelu pobl agored i niwed. Cynhaliodd cydweithwyr batrolau rhagweithiol gwelededd uchel, targedwyd rhwydweithiau cludiant, gan ymgymryd â gwaith a gynlluniwyd ymlaen llaw gan gynnwys gwarantau gorfodi. Llwyddodd y timau i arestio a chyhuddo nifer sylweddol o unigolion dan amheuaeth, diogelu pobl ac i atafaelu dros £300,000 mewn arian parod, 17kg o gyffuriau Dosbarth A a 44 o arfau.

Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones

Caiff y Prif Uwch-arolygydd Stephen Jones ei enwebu am ei ymrwymiad i blismona dros y 29 o flynyddoedd diwethaf. Daeth yn arweinydd yn gyflym ac ef yw'r Comander ym Morgannwg Ganol ar hyn o bryd, ar ôl ymgymryd â'r rôl yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg, er gwaethaf pa mor heriol ac anodd y gall yr amgylchedd gweithredu hwn fod yn ogystal â'i frwydr bersonol yn erbyn canser y ceilliau.

Mae Steve yn arweinydd brwd, yn ymrwymedig i'w staff i sicrhau eu bod yn cael y gydnabyddiaeth a'r cymorth gorau posibl am eu gwaith caled. Enghraifft o hyn yw ei waith gyda'r Gronfa Les sy'n helpu i ddarparu cymorth ariannol i gydweithwyr yn ystod eu cyfnodau anoddaf.

Mae hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau ychwanegol fel arweinydd gan gynnwys comander arfau tanio strategol a chomander trefn gyhoeddus, ac mae wedi bod yn rhan o nifer o ddigwyddiadau mawr a chritigol, digwyddiadau a phrosiectau partneriaeth sydd wedi gofyn am ymateb cadarn a chydgysylltiedig.

Yn ystod 2024 yn unig, arweiniodd Steve ein hymateb i Storm Bert dinistriol, dau achos o lofruddio, ffrwydrad angheuol mewn labordy, a gwrthdrawiad traffig ffyrdd a gymerodd fywydau tri dyn ifanc, gyda dau arall wedi'u hanafu'n ddifrifol. Nid oedd 2025 yn dawelach ar ôl ymosodiad terfysgol ar swyddogion yn Nhonysguboriau, achos angheuol o saethu, ac adroddiadau mewn perthynas â Charchar y Parc ymysg y rhain. Ond ni fethodd Steve â darparu ymateb tosturiol a chadarn.


Cyn Gwnstabl Peter Hoole

Caiff Peter Hoole ei gydnabod am ei wasanaeth neilltuol a'i ymrwymiad hirsefydlog i rôl swyddog cyswllt teuluol ym maes plismona'r ffyrdd.

Dechreuodd Peter yn gweithio fel swyddog plismona'r ffyrdd yn 2000 a daeth yn swyddog cyswllt teuluol yn 2002. Yn 2023, cafodd ei wneud yn gynghorydd cyswllt teuluol, gan helpu'r cydlynydd cyswllt teuluol yn y gwaith o reoli'r tîm. Mae ei ymrwymiad i'r rôl wirfoddol a heriol iawn hon dros y 21 o flynyddoedd diwethaf yn ddim byd llai nag eithriadol.

Mae wedi cefnogi dros 150 o deuluoedd yn bersonol yn ystod eu cyfnodau mwyaf bregus, gyda'r rhai y gwnaeth eu cefnogi'n gyson yn mynegi eu diolch am y ffordd y mae'n cydbwyso empathi diffuant ag uniondeb proffesiynol. Drwy weithredu fel pwynt cyswllt unigol ar gyfer y teulu sy'n galaru a'r tîm ymchwilio, mae angen dealltwriaeth ddwfn yn ogystal â phroffesiynoldeb a gwydnwch eithriadol i gyflawni'r rôl.

Mae Peter hefyd wedi mentora a hyfforddi nifer o swyddogion cyswllt teuluol newydd, gan eu paratoi ar gyfer heriau emosiynol a gweithdrefnol y rôl.


Rhingyll Richard Stevens

Mae'r Rhingyll Richard Stevens wedi bod yn aelod o'r Tîm Cymorth Tiriogaethol ers ei sefydlu ac mae wedi cyfrannu'n fawr at ddatblygiad yr adran drwy ei arweinyddiaeth eithriadol.

Mae Richard yn arbenigwr mewn nifer o ddisgyblaethau y mae wedi eu cynnal drwy gydol ei gyrfa, fel sgiliau chwilio, ac mae wedi bod yn ymwneud â bron pob un digwyddiad graddfa fawr gan gynnwys NATO, Cynghrair y Pencampwyr ac ymweliadau brenhinol ac ymweliadau gan arlywyddion. Mae hefyd wedi cefnogi heddluoedd ledled y wlad ar nifer o ddyletswyddau cymorth cyffredinol, yn aml yn rhoi o'i amser personol i flaenoriaethu diogelwch y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ganddo enw da am ragoriaeth ac mae'r Rhingyll Stevens wedi cael ei ystyried yn bennaeth y Timau Cymorth Tiriogaethol gyda'i brofiad, ei wybodaeth a'i ddull proffesiynol. Nid oes llawer o swyddogion sydd wedi treulio cymaint o'u gyrfa ar blismona rheng flaen, ond mae'n parhau i fod yn llawn cymhelliant, gan arwain o'r blaen ac ysbrydoli'r rhai y mae'n eu goruchwylio i gyflawni'r un safonau uchel.

Eryl James, Swyddog Ymholiadau Gorsaf

Mae Eryl wedi ymrwymo 35 o flynyddoedd i HDC a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, ac nid yw erioed wedi bod yn absennol o'r gwaith.

Bydd Eryl yn mynd gam ymhellach i helpu unrhyw un, ni waeth beth fo'r rheswm pam y daeth i orsaf yr heddlu. Mae'n dosturiol ac yn barchus, ac mae hyn yn estyn i'w chydweithwyr, y mae wedi cefnogi cymaint ohonynt dros y blynyddoedd.

Mae ymgymryd â rôl y swyddog cymorth llesiant yn enghraifft arall o natur ofalgar ac ymrwymiad Eryl i dîm HDC cyfan.


Sara Williams, Cydlynydd Trwyddedu Arfau Tanio

Ymunodd Sara â HDC yn 1984 a dechreuodd weithio i'r adran drwyddedu arfau tanio yn 2002. Yn yr adran, ehangodd ei gwybodaeth ac o ganlyniad i'w chymhelliant i ragori cafodd ei dyrchafu.

Dros y 12 mis diwethaf, mae'r adran wedi wynebu ansicrwydd a newid gyda galw mawr ar y tîm. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Sara yn biler o gymorth a gonestrwydd i'r staff – gan gydbwyso'r angen i ddatblygu yn erbyn pa mor anodd y gall fod i gydweithwyr addasu i ffordd newydd o weithio. Mae dull cyfathrebu agored Sara wedi helpu'r staff i groesawu'r newid hwn.

Hefyd, nid oes ofn ar Sara i ymgymryd â heriau newydd ei hun – gan ddarparu adroddiadau cymhleth, cynghori uwch-swyddogion a chyflwyno tystiolaeth mewn cwest crwner. Ar bob achlysur, mae Sara yn cynrychioli Heddlu De Cymru yn falch ac yn broffesiynol. Cyrhaeddodd Sara ei charreg filltir 40 mlynedd yn ei gyrfa yn ddiweddar, sef y cyfle perffaith i wobrwyo ei hymrwymiad i gadw ein cymunedau'n ddiogel.


Maria Spence, Rheolwr Cymorth Busnes Gweithredol

Mae Maria wedi bod yn cynnig gwasanaeth eithriadol am fwy na 40 o flynyddoedd, gan ymgymryd â nifer o rolau drwy gydol ei gyrfa. Caiff ei chanmol yn fawr gan ei staff a'i huwch-gydweithwyr hefyd.

Mae profiad a gwybodaeth Maria heb eu hail, ac mae'n ased gwerthfawr i'w hadran o ran rheoli busnes dyddiol yn effeithiol wrth sicrhau y darperir trefniadau llywodraethu a goruchwylio priodol i swyddogaethau busnes allweddol.

Er gwaethaf nifer y newidiadau i lywodraethu, technoleg, a galw gweithredol a sefydliadol, mae Maria wedi bod yn gyson yn y ffordd y mae wedi arwain, wedi dylanwadu ac wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r rhai y mae'n gweithio gyda nhw fel rheolwr ac fel cydweithiwr. Heb amheuaeth, mae cefnogaeth Maria wedi galluogi cydweithwyr rheng flaen i ddarparu gwasanaeth cyson gwych i'n cymunedau.

Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghanol Dinas Abertawe

Mae Canol Dinas Abertawe a'r cyffiniau yn gweld cynnydd mewn gweithgaredd gan bobl ifanc yn ystod misoedd yr haf, sy'n aml yn arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n niweidio cymunedau. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, daeth asiantaethau partner ynghyd â digwyddiadau City Chill ar chwe achlysur drwy gydol gwyliau'r haf i ddarparu gweithgareddau dargyfeirio.

Canolbwyntiwyd ar ymgysylltu ac addysg gyda phatrolau amlasiantaethol mewn mannau allweddol. Roedd y patrolau'n cynnwys diogelu a chyfeirio pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn hytrach na dim ond yr heddlu yn patrolio'r ardaloedd hyn, gan gyflwyno hysbysiadau gwasgaru ac atgyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Daeth mwy na 1,200 o bobl ifanc, aelodau o'r gymuned ac ymwelwyr i ddigwyiadau City Chill, a gwelodd y dull newydd hwn ostyngiad o 39.5% yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Cafodd yr ymgyrch ei chydnabod yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru, gan ennill y wobr ar gyfer y prosiect atal troseddau gorau yn ogystal â'r wobr gyffredinol.


Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Daeth partneriaid ynghyd i fynd i'r afael â throseddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr a'r cyffiniau yn ystod cyfnod y Nadolig yn 2024. Gwnaethant ganolbwyntio gyda'i gilydd ar faterion tai, atal troseddau manwerthu, adolygiadau o drwyddedau tacsi ac eiddo trwyddedig, cynyddu ymgysylltu cymunedol a phatrolau wedi'u targedu.

Arweiniodd hyn at 40 o arestiadau, nifer o wysion ac achosion o stopio a chwilio, gan arwain at leihad sylweddol mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, dwyn o siopau, bwrgleriaethau mewn annedd, troseddau'n ymwneud â cherbydau a digwyddiadau treisgar.


Mynd i'r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Ngorsaf Bysiau Aberdâr

Yn hanesyddol, roedd Gorsaf Bysiau Aberdâr yn lleoliad problemus, gan ddenu grwpiau mawr o bobl ifanc a oedd yn aml yn defnyddio cyffuriau, yn yfed alcohol ac yn achosi niwed troseddol. Roedd hefyd pryderon am bobl ifanc sy'n agored i niwed yn lleoliad. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, cafodd cynllun datrys problemau ei ddatblygu gydag asiantaethau partner.

Roedd patrolau ar y cyd â staff ysgol yn helpu i nodi ac i ymdrin â llawer o'r bobl ifanc, ac roedd swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r cwmnïau bysiau sy'n gweithredu yn yr orsaf i fagu hyder o ran rhoi gwybod a chynnig sicrwydd. Gwnaed newidiadau sylweddol i strwythur yr orsaf hefyd, gan rwystro nifer o fwâu diangen, gosod ffens well a gosod teledu cylch cyfyng. Cymerwyd camau cadarn yn erbyn troseddwyr mynych hefyd. Canfu cymhariaeth o flwyddyn i flwyddyn fod lleihad o 72% yn y galw, o'r brig yn 2023 yn erbyn data 2025.

Scott Michael, Swyddog Lles Anifeiliaid Gwirfoddol

Mae Scott wedi bod yn Swyddog Lles Anifeiliaid gwirfoddol ers bron i 20 mlynedd. Ddwywaith yr wythnos, heb fethu, mae Scott yn rhoi o'i amser i ofalu am ein cŵn a'n ceffylau, gan sicrhau bod yr anifeiliaid mewn cyflwr da i gyflawni eu dyletswyddau.

Mae Scott yn fanwl yn ei waith ac, ar ôl llunio rhestr o bethau i'w gwneud, mae'n gweithio'n ddiflino nes iddo gwblhau'r tasgau i gyd. Mae hefyd yn chwaraewr tîm, yn awyddus i hybu morâl ymysg ei gydweithwyr sy'n gynorthwywyr lles anifeiliaid, yn swyddogion ar geffylau ac yn swyddogion trin cŵn. Drwy ei ffraethineb a'i sgiliau mewn cwisiau, mae Scott yn aml yn diddanu ystafell y staff neu yn ystod digwyddiadau cymdeithasol. Caiff ei barchu'n fawr gan ei gydweithwyr sy'n falch o'i gael fel rhan o'r tîm.

Ruby Hill, Gwirfoddolwr Ieuenctid yr Heddlu

Mae Ruby wedi bod gyda'r hwb, sydd wedi'i leoli yn Nhrelái, yn fuan ar ôl iddo gael ei sefydlu.  Dangosodd 100% o ymrwymiad i'r cynllun, yn ystod sesiynau dosbarth a gwirfoddoli mewn digwyddiadau cymunedol. Mae Ruby hefyd yn rhoi cymorth gwych i aelodau newydd y grŵp, gan wneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu croesawu a'u cynnwys.

Mae Ruby yn awyddus i wneud gweithgareddau tîm a mynd i gymaint o ddigwyddiadau â phosibl, ac mae hyd yn oed wedi helpu gyda chyrch cyllyll a chwmpasu cyflymder yn ardal Trelái. Un digwyddiad lle roedd Ruby wir yn sefyll allan oedd Diwrnod Gwasanaethau Brys y Tyllgoed. Ymunodd â'r digwyddiad a rhoddodd gymorth i'r tîm plismona yn y gymdogaeth wrth redeg stondin cyn ymuno â gêm o rygbi cyffwrdd. Ruby oedd yr unig wirfoddolwr ieuenctid yr heddlu yn y digwyddiad hwn, a dywedodd ei chydweithwyr ei bod yn gymorth mawr. Mae hyn yn nodweddiadol o Ruby. Mae'n wirfoddolwr neilltuol.


Cwnstabl Gwirfoddol D'Andre Wells

Dim ond 22 oed yw SC Wells ond mae wedi ymrwymo nifer anhygoel o'i amser ei hun i wasanaethu cymunedau De Cymru ac mae nawr yn aelod rheolaidd o blismona atebol ym Morgannwg Ganol. Yn ystod 2024 yn unig, roedd D'Andre yn bresennol mewn 591 o alwadau am wasanaeth a daeth yn swyddog arwain ar gyfer 45 o'r achosion hyn, gan arwain at 18 o arestiadau. Dangosodd hefyd dosturi mawr i ddioddefwyr, gan sicrhau eu bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf. Mae D'Andre yn ymrwymedig iawn, ac aeth i gwrs gyrru ymatebol tair wythnos yn ei amser ei hun heb gael ei dalu fel y gall wasanaethu ei gymuned leol yn well.

Cyn dod yn Gwnstabl Gwirfoddol, roedd D'Andre yn wirfoddolwr ieuenctid yr heddlu yn ein Hwb ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle achubodd ar bob cyfle i ddysgu, datblygu a chyfrannu. Mae nawr yn helpu i redeg hwb Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu. Mae wir yn ased i Heddlu De Cymru, ac rydym yn ffodus bod D'Andre yn bwriadu ymuno â ni fel swyddog llawn amser yn fuan.

 

Ein noddwyr

Rydym mor ffodus o gael cefnogaeth gan noddwyr ein Gwobrau TîmHDC 2025, sy’n ddigon hael i ddangos eu bod yn gwerthfawrogi’r gwaith rydym yn ei wneud, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

 

AXON

Axon_Lockup_Black.png

Mae Axon yn arweinydd technoleg ym maes diogelwch y cyhoedd yn fyd-eang. Mae Axon yn adeiladu system weithredu'r dyfodol ar gyfer diogelwch y cyhoedd drwy integreiddio cyfres o ddyfeisiau caledwedd a datrysiadau meddalwedd cwmwl sy'n arwain plismona modern. Mae cyfres Axon yn cynnwys dyfeisiau ynni TASER, camerâu a wisgir ar y corff, camerâu mewn ceir, adnoddau diogelwch a hyfforddiant robotig, datrysiadau rheoli tystiolaeth digidol a gaiff eu lletya ar y cwmwl, meddalwedd cynhyrchiant a galluoedd gweithrediadau amser real.


Cyfreithwyr Dolmans

dolmans logo.jpg

Mae Cyfreithwyr Dolmans yn cynnal eu gwaith arbenigol ag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus ac yswirwyr blaenllaw o’u lleoliad yng Nghaerdydd ac mae ganddynt enw da yn y byd busnes am eu gweledigaeth fasnachol a’u dull pragmataidd o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol.


Niche

Niche_Technology_Logo.jpg

Mae meddalwedd NicheRMS yn galluogi asiantaethau byd-eang sy’n gorfodi’r gyfraith i nodi, atal a datrys troseddau. Mae gan eu staff 400+ mlynedd o brofiad plismona.


Chwaraeon Heddlu De Cymru

pssw2.jpg

Mae Chwaraeon Heddlu De Cymru yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi strategaeth llesiant Heddlu De Cymru drwy annog swyddogion, aelodau o staff a gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol sy'n hyrwyddo llesiant corfforol a meddyliol. Mae gan Chwaraeon Heddlu De Cymru bron i 30 o adrannau chwaraeon a chymdeithasol gweithredol, gan rhoi cyfle i gydweithwyr ddod ynghyd, ymlacio a meithrin cyfeillgarwch ym mhob rhan o'r heddlu. Drwy ostyngiadau arbennig ar docynnau theatr, cynhyrchion a theithiau diwrnod, yn ogystal â Loteri poblogaidd Chwaraeon Heddlu De Cymru sy'n cynnig gwobrau wythnosol, mae'r sefydliad yn helpu i feithrin ymdeimlad cryf o gymuned a chynhwysiant o fewn Tîm Heddlu De Cymru.


Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

pcc.png

Cyflwynwyd rôl Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2012 i fod yn llais etholedig y bobl ac i sicrhau y darperir plismona effeithlon ac effeithiol.

Etholwyd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools yn Mai 2024.


Ffederasiwn Heddlu De Cymru

federation 2.jpg

Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr yw’r gymdeithas staff sy’n cynrychioli dros 130,000 o swyddogion rheng a llinell.

Mae pob cangen yn gweithredu fel y corff trafod ac ymgynghori gan ddarparu cyswllt effeithiol rhwng swyddogion ac uwch reolwyr.


Unison Cymru Wales

unison cymru wales.jpg

UNSAIN yw’r undeb mwyaf yng Nghymru, gyda thros 100,000 o aelodau ym mhob rhan o’r wlad. Mae cynrychiolwyr UNSAIN yn ymroddedig i gefnogi eu haelodau yn y gweithle ac ymgyrchu i wella cyflogau ac amodau cyflogaeth.


Prifysgol De Cymru

USW Logo2.jpg

Ni yw'r Brifysgol ar gyfer De Cymru, gyda champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd. Wedi ein hysgogi gan ein cenhadaeth i newid bywydau a'n byd er gwell, Prifysgol De Cymru yw prifysgol ehangu cyfranogiad arweiniol Cymru, sy'n gwella cyfleoedd bywyd unigolion ac yn creu cymunedau mwy llewyrchus. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant dros 180 o flynyddoedd yn ôl, ac rydym yn parhau i adael y tu allan i mewn gyda chwricwlwm wedi'i arwain gan ddiwydiant, profiad gwaith byd go iawn, ac ymchwil gymhwysol ac arloesedd. Cawn ein creu ar y cyd â'r diwydiant i ymdrin â heriau lleol a heriau byd-eang.


Willmott Dixon

willmott dixon2.png

Grŵp contractio a gwaith gosod mewnol preifat yw Willmott Dixon.

Wedi ei sefydlu yn 1852, mae’n gwmni teuluol sy’n ymroi i godi adeiladau gwych, trawsnewid bywydau, cryfhau cymunedau a gwella’r amgylchedd er mwyn i’n byd fod yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.