Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae lleidr cyson wedi'i garcharu a'i wahardd o siopau ar Holton Road a Pharc Manwerthu Waterfront yn y Barri.
Mae Philip Tamlin, 49 oed o Dunlin Court wedi ymwneud â nifer o achosion o ddwyn o siopau lleol.
Mae'n mynd i mewn i siopau yn rheolaidd heb unrhyw fwriad o brynu nwyddau, ac mae swyddogion wedi ei weld yn troi'n ymosodol ac yn fygythiol wrth gael ei herio.
Yn dilyn ei euogfarn diweddar am ddwyn o siopau, cyflwynwyd Gorchymyn Ymddygiad Troseddol am ddwy flynedd i Tamlin yn Llys Ynadon Caerdydd.
Clywodd y llys fod cyflwyno'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn angenrheidiol er mwyn atal troseddu ac i ddiogelu'r gymuned, gweithwyr lleol ac aelodau'r cyhoedd rhag trallod parhaus, achosion o aflonyddu a niwed posibl.
Plediodd Tamlin yn euog i bum achos o ddwyn gan gynnwys tri achos yn Morrisons ac achosion eraill yn y Co-op a'r One Stop.
Ar 16 Medi, cafodd ei garcharu am bythefnos, gorchymyn i dalu iawndal am yr eitemau a gafodd eu dwyn, ac fe'i gwnaed yn destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol.
Dywedodd Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Heddlu De Cymru, Cwnstabl yr Heddlu Adrian Muscat: "Rydym yn gweithio'n agos gyda manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan unigolion fel Philip Tamlin.
“Gall dwyn o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siop a manwerthwyr."
Fel rhan o'r Gorchymyn Ymddygiad Troseddol, dywedwyd wrth Tamlin am wneud y canlynol:
Dyma'r llwyddiant diweddaraf yn dilyn dull gweithredu ehangach newydd o fynd i'r afael â dwyn o siopau gan heddlu Caerdydd a'r Fro.
Mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â manwerthwyr a busnesau i wella'r broses o rannu gwybodaeth a chudd-wybodaeth yn ogystal ag arestio troseddwyr cyson sy'n elwa o ladrata o siopau.
Rhoddwyd y dull ar waith fel ymateb i'r cynnydd mewn lladrata o siopau ac i wella ymddiriedaeth a hyder o fewn ein cymunedau busnes.
Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw achosion o dorri'r gorchymyn.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.