Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae dyn a drywanodd berchennog siop yng Nghaerdydd ar ôl iddo gael ei ddal yn ceisio defnyddio papur £50 ffug wedi'i garcharu.
Roedd yr heddlu yn Dorset eisoes yn chwilio am Abdul-Rahman Al-Ahmed yn dilyn achos o drywanu yno, a chafodd ei arestio gan Heddlu De Cymru ar ôl iddynt ddefnyddio technoleg adnabod wynebau ôl-weithredol i'w adnabod.
Ym mis Mai 2023, tra'r oedd Al-Ahmed yn 17 oed ac yn byw yng Nghaerdydd, cafodd ei gyhuddo o fod â chrac cocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi, ond methodd ag ymddangos yn y llys i gael ei ddedfrydu.
Cyhoeddwyd gwarant i'w arestio a deufis yn ddiweddarach, ym mis Gorffennaf 2023, ac yntau ar ffo wrth yr heddlu, trywanodd ddyn sawl gwaith yn Dorset yn dilyn anghydfod ynghylch oriawr.
Dychwelodd Al-Ahmed i Gymru ar ryw adeg ac ar 15 Rhagfyr 2023, ceisiodd ddefnyddio papur £50 ffug i brynu creision a diod yn siop Unistop ar Salisbury Road. Esboniodd perchennog y siop i Al-Ahmed fod y papur yn un ffug, ond mynnodd Al-Ahmed ei fod yn cael newid a dechreuodd ffrae. Wrth iddo gael ei hebrwng allan o'r siop, estynnodd Al-Ahmed am gyllell ym mhoced ei got a thrywanodd berchennog y siop yn ei stumog.
Gadawodd perchennog y siop i farw i bob pwrpas a ffodd o'r lleoliad – aethpwyd â pherchennog y siop i'r ysbyty am anaf difrifol yr oedd angen llawdriniaeth frys arno.
Lansiwyd ymchwiliad ac ymhen oriau, cafodd y dyn dan amheuaeth ei adnabod gan ddefnyddio teledu cylch cyfyng y siop gyda thechnoleg adnabod wynebau ôl-weithredol. Cafodd ei olion bysedd hefyd eu hadnabod ar y pecyn creision a chynhwysydd y ddiod yr oedd wedi'u taflu ar lawr y siop.
Chwe diwrnod yn ddiweddarach, ar ddydd Gwener 22 Rhagfyr, dynododd swyddogion gyfeiriad ym Mhen-y-Wain Road, Caerdydd a gwnaethant gynnal ymholiadau i'w arestio. Roedd Al-Ahmed y tu mewn i'r cyfeiriad a chafodd ei arestio.
Tra'r oedd yn y ddalfa, cafodd ei adnabod gan ei ddioddefwr yng ngorsaf yr heddlu Bae Caerdydd.
Cyhuddwyd Abdul-Rahman Al-Ahmed o sawl trosedd, gan gynnwys dau achos o adran 18, sef clwyfo'n fwriadol ac ymosodiad a achosodd niwed corfforol gwirioneddol, affräe, bod ag eitem lafnog yn ei feddiant a bod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Yn Llys y Goron Caerdydd, ddydd Llun, 29 Medi, cafodd ei garcharu am naw mlynedd gyda phum mlynedd estynedig dan drwydded.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Anthony Hurley:
“Gwnaeth yr ymateb a'r arestiad cyflym gan swyddogion, ynghyd ag ymchwiliad manwl dros ben ar ôl hynny, sicrhau bod y troseddwr hwn yn cael ei ddwyn gerbron y llysoedd yn gyflym.
“Mae troseddau yn ymwneud â chyllyll yn flaenoriaeth uchel i Heddlu De Cymru, ac rydym yn ymrwymedig i warchod ein cymunedau drwy fynd i'r afael â'r rhai sy'n cario arfau ac sy'n peri risgiau difrifol i ddiogelwch y cyhoedd. Mae'r achos hwn hefyd yn dangos pa mor bwysig yw technoleg adnabod wynebau ar gyfer plismona.
“Mae'r ddedfryd hir o garchar a roddwyd yn adlewyrchu difrifoldeb ei weithredoedd ac yn anfon neges glir at y bobl sy'n cario cyllyll ac yn eu defnyddio y gallant ddisgwyl mynd i'r carchar am amser hir.”
Defnyddiwyd technoleg Adnabod Wynebau gyda theledu cylch cyfyng yn y siop i adnabod Al-Ahmed.