Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae Anthony Nash wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes am achosion lluosog o dreisio yn erbyn dau blentyn ac oedolyn yng Nghaerdydd.
Roedd ei oroeswyr yn ddewr i roi gwybod i Heddlu De Cymru am ei droseddau ym mis Chwefror 2023.
Dau ddiwrnod yn ddiweddarach cafodd Nash ei arestio yn ei gartref yn Birmingham.
Gwadodd y dyn 47 oed y cyhuddiadau mewn cyfweliad ond cafodd ei gyhuddo a phlediodd yn euog yn ddiweddarach i'r 13 o achosion o dreisio.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, 15 Hydref, i garchar am oes a dywedwyd wrtho fod yn rhaid iddo aros yn y carchar am o leiaf 15 mlynedd cyn y gellir ystyried ei ryddhau.
Clywodd y llys fod Nash wedi cynnal ymgyrch o gam-drin ac fe'i ystyriwyd yn droseddwr peryglus.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Harriet Jones, o Heddlu De Cymru: "Mae'r rhain yn droseddau erchyll yn erbyn y dioddefwyr mwyaf agored i niwed.
"Hoffwn ganmol y dewrder a'r hyder a ddangosodd y dioddefwyr drwy roi gwybod i'r heddlu, rhannu'r hyn a ddigwyddodd a chefnogi'r ymchwiliad.
"Rwyf yn gobeithio y bydd y canlyniad yn y llys yn rhoi cysur iddynt bod cyfiawnder wedi cyrraedd y troseddwr a bod eu dewrder wedi helpu i amddiffyn y cyhoedd ehangach rhag niwed."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel.
Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.