Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi'u cyhuddo o fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.
Mae disgwyl i Gavin Burnett, 43 oed, a Darren Burnett, 50 oed o Northampton, ymddangos yn Llys Ynadon Northampton heddiw.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r fwrgleriaeth y rhoddwyd gwybod amdani tua 12.30am ddydd Llun, 6 Hydref.
Cafodd sawl eitem, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gwpwrdd arddangos yn y prif adeilad.
Mae'r ymchwiliad yn parhau i olrhain a dod o hyd i'r eitemau a gafodd eu dwyn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru:
“Hoffem ddiolch unwaith eto i Heddlu Swydd Northampton am eu cymorth yn ystod yr ymchwiliad, i'r amgueddfa am ei chymorth ac i aelodau o'r cyhoedd a wnaeth ymateb i'n hapêl am wybodaeth.”
Mae menyw 45 oed o Swydd Northampton, wedi cael ei harestio fel rhan o'r ymchwiliad ac mae ar fechnïaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500319180:
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.