Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i fwrgleriaeth yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd.
Am tua 12.30am y bore yma (ddydd Llun, 6 Hydref), cafwyd gwybod am fwrgleriaeth yn yr amgueddfa.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru:
“Ar hyn o bryd, credwn fod dau unigolyn wedi gorfodi eu ffordd i mewn i'r prif adeilad, lle cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o'r Oes Efydd, eu dwyn o gas arddangos.
“Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo, ac rydym yn erfyn ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl.
“Gallai unrhyw wybodaeth, ni waeth pa mor fach, fod yn berthnasol i'r ymchwiliad.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru:
“Fel amgueddfa, rydym yn siomedig i glywed am yr ymosodiad wedi'i dargedu'n benodol at Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd. Mae'r eitemau y tybir iddynt gael eu dwyn yn enghreifftiau o emwaith aur o'r Oes Efydd ac roeddent wedi'u harddangos yn Oriel Cymru.
“Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am eu cydweithrediad yn yr ymchwiliad hwn ac am eu hymateb prydlon pan gawsant wybod am y digwyddiad yn oriau mân y bore. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'r aelodau o staff a oedd ar ddyletswydd dros nos, a wnaeth ddilyn protocol ac, yn ffodus, na chawsant eu hanafu yn ystod y digwyddiad.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500319252.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.