Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ymgyrch ar y cyd â Chyngor Abertawe a Safonau Masnach, cyflwynwyd gorchmynion cau i nifer o siopau fêps yng nghanol dinas Abertawe a ledled ardal ehangach Abertawe ar ôl iddynt gael eu dal yn gwerthu nwyddau ffug.
Fel rhan o Ymgyrch Ceecee ac Ymgyrch Marvel, sy'n mynd i'r afael â sigaréts a fêps anghyfreithlon, cymerwyd camau yng nghanol y ddinas, Gorseinon, Pontarddulais, Treforys ac Uplands dros gyfnod o dri diwrnod.
Arestiwyd cyfanswm o 11 o bobl a oedd yn gysylltiedig â'r busnesau a oedd yn masnachu'n anghyfreithlon. Atafaelwyd 365g o ganabis, a chyflwynwyd naw hysbysiad cau ar safleoedd. Mae pum car wedi cael eu hatafaelu, ynghyd â £3,500 o arian parod.
Mae 971 o becynnau o sigaréts (â gwerth ffug o £4,855, a gwerth manwerthu o £15,000), 970 o becynnau tybaco rholio â llaw (â gwerth ffug o £19,500, a gwerth manwerthu o £39,000) a 2,292 o fêps (gwerth £23,000) hefyd wedi cael eu hatafaelu a byddant yn cael eu dinistrio.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Hedley:
“Mae tybaco a fêps ffug yn anghyfreithlon ac yn beryglus iawn i'r rhai sy'n eu defnyddio.
“Ni chaiff sigaréts ffug eu rheoleiddio ac maent yn beryglus ac yn ariannu troseddau cyfundrefnol difrifol. Nid yw'r fêps a atafaelwyd yn cydymffurfio â safonau diogelwch y DU a gallant beri risg i iechyd y rhai sy'n eu defnyddio.
“Rhoddwyd rhybuddion i'r busnesau hyn roi'r gorau i werthu'r eitemau hyn, ond gwnaethant eu hanwybyddu. Byddant nawr yn cael eu dwyn o flaen y llys o ganlyniad i hynny.”
Dywedodd Andrew Williams, Aelod o'r Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol (Perfformiad) yng Nghyngor Abertawe:
“Mae'r cyngor hwn yn cymryd y weithred o werthu fêps anghyfreithlon a thybaco ffug yn Abertawe o ddifrif.
“Mae ein Tîm Safonau Masnach wedi rhoi blaenoriaeth i'r mater hwn ac mae wedi llwyddo i gasglu llawer iawn o gudd-wybodaeth am ba siopau yn y ddinas sydd wedi bod yn gwerthu nwyddau anghyfreithlon i gwsmeriaid, gan gynnwys plant, yn y gorffennol.
“Mae'r ymgyrch diweddaraf wedi bod yn llwyddiannus iawn o safbwynt ein hymdrechion i amharu ar y math hwn o fasnachu, ac rydym yn gobeithio y bydd yn anfon neges gref iawn i fusnesau eraill yn y ddinas i ddangos bod dyletswydd arnynt i sicrhau eu bod yn masnachu'n gyfreithlon heb beri risg i gwsmeriaid.
“Diolch i'n Tîm Safonau Masnach, ac i'r asiantaethau eraill a wnaeth ein helpu.”