Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Bydd aelodau o'r gymuned a phobl ifanc yn cael y cyfle i gyfarfod â'r heddlu i drafod y materion y maent yn eu gweld yn eu cymunedau mewn digwyddiad sydd i ddod yn Abertawe.
Mae'r Fforwm Dysgu, Ymgysylltu ac Addasu mewn Partneriaeth (LEAP) yn rhoi cyfle i aelodau o'r cyhoedd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gyfarfod â'r heddlu i drafod y materion sy'n effeithio arnynt yn eu cymunedau.
Mae'r digwyddiad hefyd yn galluogi'r heddlu i rannu gwybodaeth i ddangos sut y gallwn gydweithio i gadw cymunedau Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yn ddiogel.
Caiff y Fforwm ei gynnal mewn amrywiaeth o leoliadau yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, a bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal ym Mosg a Chanolfan Gymunedol Islamaidd Abertawe, St. Helen’s Road, Abertawe am 5pm ddydd Mawrth, 14 Hydref.
Caiff y pynciau canlynol eu trafod ar y diwrnod.
1. Y defnydd o'r broses stopio a chwilio fel ffordd o leihau troseddau treisgar a throseddau yn ymwneud â chyffuriau
2. Llinellau cyffuriau a chamfanteisio troseddol ar blant
3. Ein dull o reoli protestiadau