Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc yn ystod misoedd cynnes yr haf wedi gostwng yn gyffredinol yn ardal SA1 yn Abertawe yn 2025 yn sgil ymgyrch blismona amlasiantaethol.
Mae'r ffigurau ar gyfer Ymgyrch Limpkin rhwng mis Mai a mis Medi yn dangos gostyngiad cyson yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc y rhoddwyd gwybod amdanynt i'r heddlu. Rhoddwyd gwybod i'r heddlu am 34 o achosion yn 2022, 22 o achosion yn 2023 ac 16 o achosion yn 2024.
Gan mai 2022 oedd y flwyddyn ddiwethaf i Abertawe fwynhau haf a oedd yn gyson gynnes, mae data yn dangos gostyngiad nodedig yn nifer yr adroddiadau o YG o gymharu â 2025, lle cafwyd 29 o adroddiadau eleni. Mae'r ffigurau ym mis Awst wedi gostwng o naw adroddiad yn 2022 i un yn unig yn 2025.

Yn y blynyddoedd diwethaf, byddai problemau fel grwpiau mawr o bobl ifanc yn ymgynnull, gweiddi a defnyddio iaith anweddus mewn ardaloedd cyhoeddus yn codi, yn ogystal â neidio mewn i'r dŵr yn y dociau, taflu eitemau peryglus, reidio beiciau'n anniogel ac yn wrthgymdeithasol, a mwy. Roedd y problemau hyn yn cael effaith negyddol ar drigolion a busnesau lleol.
Mae swyddogion wedi dechrau rhoi tactegau dargyfeirio ar waith yn sgil dull amlasiantaethol Ymgyrch Limpkin er mwyn amharu ar grwpiau gwrthgymdeithasol. Mae'r tactegau hyn wedi annog pobl ifanc i ymgymryd â menter y Gweilch yn y Gymuned ym Morfa, teithiau dydd EVOLVE, tocynnau LC2 a mentrau eraill.
Mae swyddogion wedi cysylltu â busnesau lleol a chyfadeiladau preswyl i roi sicrwydd a chynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar ddioddefwyr, gan gynnwys dangos y dulliau rhoi gwybod am ddigwyddiadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â phroblemau'n ymwneud ag YG yn yr ardal i'r trigolion. Mae digwyddiadau "Paned gyda Phlismon" yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn yr ardal, sydd hefyd yn rhoi cyfle i drigolion drafod y problemau sy'n ymwneud ag YG sy'n effeithio arnynt.


Mae Tîm Plismona yn y Gymdogaeth y Dwyrain a Chwnstabliaid Gwirfoddol yn cynnal mwy o batrolau ac yn ymgysylltu â thrigolion yn ardal SA1/Dociau Abertawe i gynnig sicrwydd pellach, ac mae mwy o bwyslais wedi'i roi ar blatfform De Cymru yn Gwrando i helpu dioddefwyr i roi gwybod am achosion o YG.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Price:
"Ni ddylai trigolion SA1 orfod ymdopi ag unrhyw lefel o ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth iddynt fyw eu bywydau o ddydd i ddydd, a chafodd Ymgyrch Limpkin ei sefydlu i fynd i'r afael â'r problemau hyn.
"Mae'n dda gweld bod y data yn dangos bod yr ymgyrch yn cael effaith gadarnhaol. Mae'r Tîm Plismona yn y Gymdogaeth a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a'r Cwnstabliaid Gwirfoddol yn gweithio'n galed i sicrhau bod yr ardal rydym yn byw ynddi yn un sy'n cynnig croeso i bawb, ac mae ymgyrchoedd o'r fath yn sicrhau nad yw'r lleiafrif yn difetha pethau i'r mwyafrif.”