Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o dreisio ac ymosod yn rhywiol ar dri o ddioddefwyr sy'n blant.
Plediodd Joshua Jones, 32 oed, o Gwmafan, yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.
Ar ôl treial yn Llys y Goron Abertawe, cafwyd Jones yn euog o dreisio bachgen o dan 13 oed, pum achos o ymosod ar fachgen o dan 13 oed drwy gyffwrdd, ac achosi i fachgen o dan 13 oed ymgymryd mewn gweithgarwch rhywiol. Roedd ei ddioddefwr ieuengaf rhwng pump a chwech oed pan ddigwyddodd troseddu Jones.
Mae Jones wedi cael dedfryd estynedig o 23 mlynedd, sy'n cynnwys 19 mlynedd yn y carchar a phedair blynedd ar drwydded.
Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Samantha Lewis:
"Cymerodd Joshua Jones fantais o dri bachgen yn ddidostur yn y ffordd fwyaf erchyll. Cymerodd fantais o'r pŵer oedd ganddo drostynt o ganlyniad i'w hoedran ifanc iawn a chymerodd flynyddoedd diniwed eu plentyndod oddi wrthynt.
"Mae'r hyn y mae wedi'i wneud yn gwbl warthus. Nid digwyddiad unigol oedd hyn; roedd nifer o achosion pan wnaeth Jones gyflawni troseddau erchyll yn erbyn ei ddioddefwyr oedd yn blant.
"Bydd yn treulio cyfnod sylweddol o amser dan glo."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod amdano i'r heddlu eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.