Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Kamran Aman
Mae dau berson ifanc wedi cael eu cyhuddo o lofruddio Kamran Aman yn y Barri.
Mae'r bechgyn, sy'n 16 oed a 17 oed, o Lanilltud Fawr, na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol, wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yfory (Dydd Iau, 3 Gorffennaf).
Mae teulu Kamran wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ac maent yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i achos o drywanu ar Barry Road ychydig cyn hanner nos, nos Lun 30 Mehefin.
Bu farw'r tad i un, Kamran a oedd yn 38 oed, ac mae ymchwiliad i'w lofruddiaeth wedi'i lansio.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O'Shea o'r Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr: "Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Kamran ers digwyddiadau trasig nos Lun.
“Mae dau unigolyn wedi cael eu cyhuddo erbyn hyn, ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â marwolaeth Kamran.
"Hoffem ddiolch yn fawr i'r gymuned am y cymorth a'r wybodaeth sydd wedi eu darparu'n barod.
"Rydym yn deall bod ffyrdd ar gau a chordonau'r heddlu, sydd bellach wedi cael eu codi, wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned leol."
Mae teulu Kamran wedi rhyddhau'r deyrnged ganlynol: "Gyda thristwch mawr a chalonnau trwm, rydym yn galaru am farwolaeth drasig Kamran. Yn ŵr ymroddedig, tad cariadus, mab annwyl, brawd, ewythr a ffrind ffyddlon, roedd Kamran wrth galon ei deulu ac yn cael wedi ei garu o fewn ei gymuned.
"Roedd yn adnabyddus am ei ysbryd hael a'i galon garedig, roedd Karman yn dod â chynhesrwydd a chryfder i bawb roedd yn cyfarfod â nhw. Mae ei absenoldeb yn gadael bwlch eithriadol ym mywydau pawb a oedd yn ei adnabod.
"Wrth i ni alaru'r golled enfawr hon, rydym hefyd yn anrhydeddu ac yn dathlu'r bywyd a wnaeth ei fyw a'r effaith a gafodd. Bydd yr atgof amdano yn fendith."
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg hon wrth iddynt ddod i delerau â'u galar.
Mae'r ymchwiliad yn parhau a gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar-lein yma:
https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C16-PO1
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth hefyd gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500207506.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.