Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw yn y Barri nos Lun wedi cael ei enwi'n Kamran Aman, 38 oed.
Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i achos o drywanu ar Barry Road ychydig cyn hanner nos, nos Lun 30 Mehefin.
Bu farw'r tad i un, Kamran, ac mae ymchwiliad i'w lofruddiaeth wedi'i lansio.
Mae aelodau ei deulu yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion sydd cael hyfforddiant arbennig.
Mae ystafell digwyddiad wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu Canol Caerdydd ac mae ditectifs yn apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Mark O’Shea o Dîm Troseddau Mawr yr heddlu: "Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni geisio cadarnhau'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd nos Lun. Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Kamran Aman.
"Mae ffyrdd ar gau ac mae cordonau'r heddlu yn eu lle o hyd, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am ei chymorth a'i dealltwriaeth barhaus wrth i ni barhau â'r ymchwiliad.
"Rydym yn apelio at unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a welodd yr hyn a ddigwyddodd i gysylltu â ni â gwybodaeth, ni waeth pa mor ddibwys y gall y wybodaeth honno fod yn ei farn ef.”
Mae dau fachgen, 16 ac 17 oed, o Lanilltud Fawr, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maent yn y ddalfa o hyd.
Gellir cyflwyno gwybodaeth a deunydd fideo ar-lein yma: https://mipp.police.uk/operation/62SWP25C16-PO1
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth hefyd gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu 2500207506.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Cysylltwch â ni drwy https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/ffurflenni-cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
📞 101
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng