Stamp amser presennol: 23/06/26 13:38:22
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

'Nid dy stori di i’w hadrodd yw hi' ymgyrch

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 01:00 03/07/2025

Mae menyw ifanc yn rhan o ymgyrch i atal pobl rhag defnyddio eu ffonau symudol i ffilmio wrth safle digwyddiad ar ôl i’w thad ymladd am ei fywyd ar ôl cael ei daro gan gar.

Mae Eve Thomas o Hirwaun, a oedd yn 17 oed ar y pryd, yn siarad am ba mor ddinistriol yw hi i wybod bod pobl wedi uwchlwytho lluniau o'r ddamwain i'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd cannoedd o bobl yn dyfalu am ei thad, Nigel Thomas, a'i gyflwr ar-lein.

Mae'r ymgyrch, Nid dy stori di i’w hadrodd yw hi, yn cael ei harwain gan Rwydwaith Trawma De Cymru ac yn cael ei chefnogi gan nifer o asiantaethau gan gynnwys heddluoedd Cymru a gwasanaethau golau glas eraill.

"Ro’n i ar fy ffordd adre o'r ysgol pan cafodd ein bws ei stopio oherwydd damwain traffig," meddai Eve.

“Sylwais i ar feic dad ac ro’n i’n gwrthod ei dderbyn, ond ro’n i’n gwybod taw ei feic e oedd e gan taw fi oedd wedi rhoi’r sticeri arno. Dechreuodd myfyrwyr ar y bws ffilmio’r olygfa ar eu ffonau, a oedd yn anghywir.

“Pan gyrhaeddais i adre o’r diwedd, darganfyddais i taw dad oedd e a dyma’r holl beth yn fy llorio. Roedd yn reidio adre o’r gwaith pan gafodd ei daro gan gar. Roedd ganddo anafiadau wnaeth newid ei fywyd, doedden ni ddim yn gwybod a oedd e’n mynd i oroesi. Treuliodd wythnosau mewn coma meddygol a naw mis yn yr ysbyty. Doedd dim geiriau i esbonio sut o’n i’n teimlo, doedd e ddim yn teimlo’n real.

“Roedd gymaint yn waeth oherwydd ro’n i’n gwybod bod pobl yn rhannu’r hyn roedden nhw wedi’i ffilmio ac yn dyfalu am yr hyn oedd wedi digwydd ar-lein. Roedd fy mam fedydd wedi gweld y stori ar-lein ac wedi ein ffonio ni yn meddwl bod dad wedi marw.”

Mae Eve, sydd bellach yn 25 oed, yn gofyn i bobl oedi a meddwl am effaith ddynol ffilmio damweiniau a rhannu cynnwys ar-lein. Cafodd gefnogaeth arbenigol gan Rwydwaith Trawma De Cymru ar ôl gweld ail ddigwyddiad difrifol iawn, gan sbarduno teimladau trawmatig eto.

Dywedodd Eve: "Mae’r person yna o'ch blaen chi yn rhiant, plentyn, neu ffrind i rywun. A fyddech chi eisiau i rywun ffilmio rhywun sy’n annwyl i chi pan maen nhw fwyaf bregus, neu a fyddech chi eisiau iddyn nhw alw am help?

“Roedd y modd y cafodd pethau eu ffilmio a'u rhoi ar gyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o sut effeithiodd y cyfan arnai ac roedd llawer o'r therapi i fy helpu i symud ymlaen yn seiliedig ar hynna.”

Mae Nigel, cyn-yrrwr danfon nwyddau 65 oed, bellach yn byw yn ei gartref ac yn derbyn gofal gan Eve. Mae hi'n gobeithio y bydd ei stori yn gwneud i bobl feddwl ddwywaith cyn ffilmio wrth safle damwain, gan symud y ffocws o recordio cynnwys dychrynllyd i ddangos tosturi tuag at ddioddefwyr a'u teuluoedd.

"Os y galla i atal un teulu yn unig rhag profi'r hyn aethon ni drwyddo, yna bydd rhannu ein stori wedi bod yn werth chweil," meddai Eve.

Profiad Eve a'i hawydd i atal pobl eraill rhag profi’r un peth a ysgogodd y syniad ar gyfer yr ymgyrch, ac fe’i cynhyrchwyd ganddi hi ar y cyd ag Andrea Bradley, Rheolwr Gweithrediadau Rhwydwaith Trawma De Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys ysbytai, gwasanaethau brys a gwasanaethau adsefydlu ledled y rhanbarth, yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cleifion ag anafiadau sy'n peryglu bywyd neu sy'n newid bywyd yn derbyn y driniaeth a'r gofal gorau posibl.

Mae Andrea Bradley hefyd yn Uwch Nyrs gyda phrofiad helaeth o drawma. Dywedodd Andrea: "Rydym yn hynod falch o Eve a’i dewrder i adrodd ei stori, gan dynnu sylw at faterion yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol wrth safle digwyddiad. Mae'n cael effaith ar y gwasanaethau brys sy’n ceisio darparu'r gofal gorau posibl mewn amgylchiadau anodd. Fel y gallwch weld o stori Eve, mae hefyd yn brofiad negyddol parhaol i'n cleifion a'u hanwyliaid.”

Dywedodd Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru, Sarah Murphy: “Mae hon yn ymgyrch hynod bwerus. Mae stori Eve a’i thad Nigel yn dangos sut y gall yr hyn sydd efallai'n ymddangos fel chwilfrydedd, llun cyflym a phostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, achosi effeithiau hirdymor a thrawma i’r rhai yr ochr arall i'r lens. Rwy’n canmol Eve am ei dewrder wrth siarad am hyn a gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i alw am gymorth wrth weld damwain neu achos fel hyn.”

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.