Stamp amser presennol: 16/06/26 22:34:06
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Deddfwriaeth newydd yn gwahardd cleddyfau ninja yn y DU mewn grym o heddiw ymlaen

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 10:08 01/08/2025

O heddiw ymlaen (dydd Gwener 1 Awst) bydd yn anghyfreithlon i rywun fod â chleddyfau ninja yn ei feddiant, eu gweithgynhyrchu, eu mewnforio neu eu gwerthu yn y DU.

Y gwaharddiad yw rhan olaf Cyfraith Ronan, fel y'i gelwir, a fydd yn cael ei chyflwyno er mwyn mynd i'r afael â'r pla cenedlaethol o droseddau cyllyll.

O heddiw ymlaen gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal â chleddyf ninja yn ei feddiant yn breifat wynebu chwe mis o garchar a bydd hyn yn codi'n ddiweddarach i ddwy flynedd o dan fesurau newydd yn y Bil Troseddu a Phlismona. Mae cosb eisoes o hyd at bedair blynedd o garchar am gario unrhyw arf mewn man cyhoeddus.

Daw'r gwaharddiad i rym heddiw yn dilyn cynllun ildio arfau cenedlaethol mis o hyd, a oedd yn annog pobl i gyflwyno unrhyw gyllyll zombie yn ddiogel yn eu gorsaf heddlu leol. Roedd hefyd wedi galluogi pobl i gofrestru am iawndal am ildio'r arfau, y gallai rhai ohonynt fod wedi cael eu prynu at ddibenion addurnol neu grefyddol.

Fel pob heddlu arall, cefnogodd Heddlu De Cymru y cyfnod amnest, a barodd drwy gydol mis Gorffennaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 14 o gleddyfau eu derbyn a chafodd pum cais am iawndal eu cyflwyno.

Diolchodd yr Uwch-arolygydd Donna Llewellyn, arweinydd troseddau cyllyll yr heddlu, i'r cyhoedd am eu cydweithrediad a'u hymrwymiad i helpu i atal arfau a allai ladd rhywun rhag mynd i'r dwylo anghywir.

Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Llewellyn:

“Gwyddom nad oedd pawb a oedd â chleddyf ninja yn eu meddiant yn bwriadu cyflawni trosedd – gallant fod yn boblogaidd gyda phobl sy'n frwd dros grefftau ymladd a chael eu defnyddio at ddibenion addurnol, er enghraifft.

“Ond rydym wedi gweld achosion mewn rhannau eraill o'r DU lle maent wedi cael eu defnyddio fel arfau angheuol, ac mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i atal arfau o'r fath rhag mynd i'r dwylo anghywir a chydweithio i fynd i'r afael â throseddau cyllyll.

“Mae troseddau cyllyll yn dal yn gymharol brin yn Ne Cymru, ar y cyfan, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod y sefyllfa hon yn parhau. Ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â'r broblem a dwyn y rhai sy'n cyflawni troseddau cyllyll i gyfrif.

“Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag Uned Atal Trais Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru i godi ymwybyddiaeth o ymgyrch Ddim Yr Un er mwyn newid canfyddiadau ymhlith pobl ifanc y bydd cario cyllell yn eu gwneud yn fwy diogel, pan mai'r gwrthwyneb sy'n wir, mewn gwirionedd.”

Ychwanegodd Emma Wools, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru:

“Rwy'n ymrwymedig i greu De Cymru diogel, cyfiawn a chynhwysol i bawb. Bydd gwaredu ein cymunedau rhag yr arfau peryglus a niweidiol hyn yn cyfrannu at gyflawni'r nod hwn, ochr yn ochr â'n hymyriadau wedi'u targedu megis Cronfa Hotspots Action a'n cymorth parhaus i Unedau Atal Trais. Gwyddom fod troseddau cyllyll yn destun cryn bryder i bawb a, thrwy ein cyllid ar gyfer ardaloedd problemus, rydym wedi gweld lleihad o 22% mewn troseddau sy'n ymwneud â bod ag arfau yn eich meddiant a gostyngiad o 19% mewn niwed.

“Bydd y fenter genedlaethol hon yn adeiladu ar ein gwaith yn Ne Cymru, er mwyn ceisio torri'r cylch o unigolion yn cario cyllyll a byddwn yn parhau i gefnogi mentrau wedi'u targedu er mwyn diogelu ein plant a'n pobl ifanc rhag niwed a thrais.”

Er bod y cyfnod ildio ac iawndal bellach wedi dod i ben, rydym yn parhau i annog unrhyw un sydd â chleddyf ninja yn ei feddiant ond nad oedd, o bosibl, yn ymwybodol o'r newid i ddeddfwriaeth, gysylltu â ni er mwyn trefnu iddo gael ei waredu'n ddiogel ac osgoi torri'r gyfraith.

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.