Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Llun o Colin Evans yn nalfa'r heddlu.
Mae dyn o Gaerdydd a gafodd ei ddal yn delio heroin gan swyddogion o Dîm Troseddau Cyfundrefnol Caerdydd a'r Fro wedi cael ei garcharu.
Cafodd Colin Evans, 55 oed, o Clive Street, ei weld yn cyfnewid rhywbeth â dyn arall nid nepell o'i gartref yn Clive Street.
Rhannodd y swyddogion i fyny; dilynodd un ohonynt Evans a dilynodd y llall y dyn arall a'i ddal.
Cyfaddefodd iddo brynu heroin ac roedd yn dal darn o bapur â rhif ffôn wedi'i ysgrifennu arno.
Dilynodd y swyddog arall Evans i fflat yn Clive Street a dychwelodd yn ddiweddarach y noson honno gyda Gwarant Chwilio Adran 17. Daethpwyd o hyd i ffôn symudol a oedd yn cyd-fynd â'r rhif a welodd swyddogion ar y darn papur, swm bach o heroin ac arian parod.
Llwyddodd swyddogion i olrhain galwad a wnaed i'r ddyfais honno i flwch ffôn oedd yn agos iawn i dŷ Evans. Cafodd yr alwad ei gwneud ychydig cyn i'r swyddogion weld y ddêl cyffuriau rhwng y ddau ddyn.
Cafodd DNA Evans ei ganfod ar yr heroin y gwnaeth ei drosglwyddo i'w gwsmer.
Plediodd yn euog i gyflenwi heroin ddydd Mercher, 2 Gorffennaf a chafodd ei garcharu am bum mlynedd a saith mis yn Llys y Goron Caerdydd.