Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Aaron Gaughan, 45 oed o'r Barri, ei ddedfrydu i 20 mlynedd, sef 15 mlynedd yn y ddalfa a phum mlynedd ychwanegol am berygl, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 14 Gorffennaf, 2025. Cafodd hefyd orchymyn atal am gyfnod amhenodol, er mwyn diogelu ei ddioddefwr.
Roedd y treial yn dilyn pledion dieuog ar 26 Tachwedd, 2024 i dri chownt o drais rhywiol, ymddygiad gorfodaethol/ rheolaethol, dau gownt o ymosod a stelcio gan gynnwys achosi braw a gofid. Fe'i cafwyd yn euog o'r holl gowntiau yn dilyn treial wyth diwrnod o hyd.
Cyn hyn, roedd wedi pledio'n euog i yrru tra roedd wedi'i wahardd a gyrru cerbyd modur heb yswiriant.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Brittany Brewer "Mae Aaron Gaughan yn unigolyn peryglus a oedd yn rheoli pob agwedd ar fywyd ei ddioddefwr. Nid yw wedi dangos unrhyw edifeirwch nac empathi ar ôl yr ymgyrch o gam-drin a achoswyd ganddo.
Rydym yn cymeradwyo dewrder y dioddefwr yn yr achos hwn sydd wedi dangos cryfder anhygoel yn mynd i'r llys ac yn rhoi tystiolaeth i'r rheithgor.
Gobeithio y gall gael rhywfaint o heddwch ac ailadeiladu ei bywyd yn dilyn y ddedfryd sylweddol a basiwyd gan ei Hanrhydedd y Barnwr Lucy Crowther heddiw."
Darllenodd y dioddefwr y datganiad effaith canlynol yn y llys
"Rwy'n dechrau teimlo fel person gwahanol ers yr holl drawma a achoswyd i mi gan Aaron Gaughan.
Fodd bynnag, nid yw hynny'n anghofio'r pryder a'r straen ofnadwy a wynebwyd gennyf dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n ei chael hi'n anodd iawn cysgu ac o ganlyniad i hyn rwyf ar fwy o feddyginiaeth wahanol. Rwy'n cael hunllefau parhaus ac yn ofni gadael fy nghartref.
Pan oeddwn i mewn perthynas ag Aaron Gaughan, roeddwn yn teimlo fel carcharor yn fy nghartref fy hun a byddaf yn cael cwnsela ar gyfer hynny. Rwy'n dal i'w ofni hyd heddiw. Drwy gydol y berthynas gwnaeth Aaron i mi deimlo'n ddiwerth ac roedd yn rheoli fy meddwl.
Rwy'n gobeithio nawr bod Aaron wedi cael ei ddedfrydu y byddaf yn gallu byw bywyd bob dydd gyda fy merch heb fyw mewn ofn. Gallaf ganolbwyntio ar fy merch a'i magu yn y ffordd y mae'n ei haeddu."
Am ganllawiau ar sut i roi gwybod am drais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, gweler yma: Rhoi gwybod am drais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru