Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei charcharu ar ôl torri gorchymyn atal a gafodd am ymosod ar ei chyn-bartner.
Gwnaeth Charlotte Cotterrell sy'n 26 oed o Bontardawe, weiddi iaith ddifrïol ar ei chyn-bartner wrth bwyso allan o ffenest sedd flaen car a oedd yn symud pan oedd yn cerdded ar y palmant.
O ganlyniad i hynny, torrodd y gorchymyn atal a osodwyd yn flaenorol yn ei herbyn gan y dioddefwr.
Plediodd Cotterrell yn ddieuog i'r drosedd ond fe'i cafwyd yn euog yn y llys ym mis Ebrill.
Mae wedi cael ei dedfrydu i 14 mis a 12 wythnos yn y carchar, gan gynnwys 12 wythnos am dorri'r gorchymyn atal ac 14 mis am weithredu dedfryd a gafodd yn flaenorol am achosi gwir niwed corfforol i'r dioddefwr.
Dywedodd y Rhingyll Mark Bateman:
"Ni ddylai neb orfod wynebu aflonyddwch parhaus gan eu partner, yn enwedig pan nad ydynt mewn perthynas mwyach.
"Mae Charlotte Cotterrell wedi dangos diffyg aeddfedrwydd a diffyg rheolaeth dros ei hemosiynau. Bydd hyn wedi bod yn anodd iawn i'r dioddefwr, y mae wedi bod yn dreisgar yn gorfforol yn ei erbyn yn flaenorol.
"Gobeithio y bydd hi'n meddwl am ei dewisiadau yn y carchar ac yn gwneud newidiadau y mae eu hangen yn fawr i'w bywyd."