Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi'i garcharu ar ôl pledio'n euog i stelcio menyw ac ymosod arni hi a'i mab.
Cyflawnodd Johnathan Price, 54 oed o Hafod, batrwm o ymddygiad gwael yn erbyn ei gyn-bartner, gan ddechrau ym mis Mehefin eleni.
Pan roddodd ei gyn-bartner wybod i'r heddlu am ei ymddygiad, rhoddodd Price bwysau arni i dynnu ei datganiad yn ôl, ac anfonodd sawl neges ati i'r un perwyl.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 8 mis yn y carchar.
Dywedodd PC Bennett:
“Cyflawnodd Johnathan Price gyfres o achosion o stelcio ac aflonyddu yn erbyn ei gyn-bartner, ac ni ddylai neb orfod wynebu hyn.
“Mae'r ffaith y byddai hyn yn troi'n dreisgar yn dangos ei fod yn ddyn peryglus. Gadawodd y dioddefwr yn poeni am yr hyn y byddai'n ei wneud nesaf, gan gynnwys p'un a fyddai'n troi i fyny yn ei chyfeiriad.
“Mae unrhyw fath o stelcio ac aflonyddu yn gwbl annerbyniol a ni chaiff ei oddef gan yr heddlu. Dylai unrhyw un sy'n wynebu'r math hwn o ymddygiad roi gwybod i ni amdano ar unwaith.”