Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl i ffatri canabis gael ei darganfod yng nghanol dinas Abertawe.
Arestiwyd Aleksander Cela sy'n 26 oed a Dennis Horeshka sy'n 30 oed, y ddau heb gartref sefydlog, yn dilyn gwarant ar Strand ar 8 Mai.
Yn ystod y cyrch, daethpwyd o hyd i dyfiant mawr o ganabis lle'r oedd dros 900 o blanhigion yn cael eu tyfu.
Mae'r ddau ddyn wedi cael eu dedfrydu i 32 o fisoedd yn y carcharu ar ôl pledio'n euog i gynhyrchu cyffuriau Dosbarth B.
Dywedodd y Rhingyll Craig Evans:
"Aleksander Cela a Dennis Horeshka yw'r unigolion diweddaraf i sylweddoli nad yw bod yn rhan o'r fasnach gyffuriau anghyfreithlon yn talu.
"Nid yn unig mae'r enillion o ddelio canabis yn mynd tuag at weithgareddau anghyfreithlon eraill a rhai sy'n fwy difrifol, mae'n golygu bod nifer sylweddol o bobl yn wynebu risg o niwed.
"Hefyd, roedd yr adeilad hwn ar Strand, yr oedd y dynion yn ei ddefnyddio i gynnal eu gweithgareddau yn anniogel iawn, ac roedd rhaid iddo gael ei ddiogelu cyn i swyddogion a'r Tîm Cymorth Tiriogaethol gael mynediad i gael gwared o'r planhigion a'r cyfarpar.
"Mae canlyniadau difrifol i drosedd cyffuriau. Yma, mae'r canlyniadau hynny'n cynnwys cael eich anfon i'r carchar."