Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi'u carcharu ar ôl canfod symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A yn eu meddiant yn Abertawe.
Ar 16 Mehefin 2025, cafodd Jayley Rickman sy'n 21 oed o Weston-super-Mare a Harry Thompson sy'n 18 oed o Gwmrhydyceirw, eu gweld gan swyddogion yn yr ardal Hafod.
Canfuwyd bod gan Rickman dair rôl o grac cocên, bag snap yn cynnwys llawer o roliau o grac cocên, cyllell sy'n cloi, ffôn symudol a swm o arian parod yn ei feddiant.
Roedd gan Thompson ffôn symudol dros dro yn dangos negeseuon testun yn profi ei gysylltiad â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A, yn ogystal â phot coffi gwydr yn cynnwys swm mawr o gyffuriau Dosbarth A ychwanegol yn ei feddiant.
Plediodd Jayley Rickman yn euog i feddu ar lafn cyllell/arf miniog mewn man cyhoeddus, a chael crac cocên a heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Plediodd Harry Thompson yn euog i gael heroin a chocên yn ei feddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, ac o ymwneud â chyflenwi heroin a chocên.
Cafodd Jayley Rickman ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar. Cafodd Harry Thompson ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Luke Tucker:
"Mae Jayley Rickman a Harry Thompson yn ddau ddyn ifanc sydd wedi gwastraffu blynyddoedd o'u bywydau am iddynt fod yn wirion ac ymwneud â chyffuriau Dosbarth A.
"Mae'r fasnach anghyfreithlon hon yn dinistrio nifer fawr o fywydau ar bob cam o'r gadwyn. Mae felly yn wych clywed bod y rhai sy'n ymwneud â dod â'r gofid hwn i'n cymunedau yn cael eu hanfon i'r carchar."