Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i achosion niferus o droseddau rhyw hanesyddol yn cynnwys plentyn.
Cyflawnodd James Thomas, 37 oed o Dreforys, y troseddau pan oedd y dioddefwr rhwng 14 a 15 oed. Digwyddodd y troseddau hyn dros gyfnod o chwe mis.
Plediodd Thomas yn euog i'r troseddau o ddau achos o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol â merch 13-15 oed, un achos o achosi/annog y dioddefwr i ymgymryd â gweithgarwch rhywiol, a thri achos o gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol treiddiol gyda merch 13-15 oed.
Cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a phedwar mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amy Davies:
“Manteisiodd James Thomas ar blentyn, a gwyddai fod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn anghyfreithlon.
“Roedd ei droseddau yn gwbl annerbyniol. Rydym yn canmol dewrder y dioddefwr yn rhoi gwybod i ni am y troseddau, na allai fod wedi bod yn hawdd iddi.
“Os ydych chi wedi dioddef unrhyw fath o drosedd rywiol, peidiwch â dioddef yn dawel. Rhowch wybod i ni drwy 101 a gall swyddogion sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig eich cefnogi.
“Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.”