Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma'r foment y cafodd Joshua Pope ei arestio am ddelio cyffuriau gan swyddogion o Heddlu De Cymru.
Roedd ychydig cyn 1am fore dydd Sul, 9 Mehefin (2025), ac roedd swyddogion yn aros amdano ar y tarmac ym Maes Awyr Stanstead. Roeddent yn gwybod ei fod ar awyren a oedd yn teithio o Marrakesh lle roedd wedi bod ar wyliau.
Aeth y swyddogion ar yr awyren yn syth ar ôl iddi lanio a chafodd Pope ei dywys oddi ar yr awyren cyn cael ei arestio. Cafodd ei yrru'n syth yn ôl i Dde Cymru a'i roi yn y ddalfa.
Amheuwyd bod Pope yn ymwneud â rhedeg llinell gyffuriau Oscar yn Abertawe.
Cafodd ei arestio o ganlyniad i fforenseg ffôn fanwl a alluogodd swyddogion i brofi bod ganddo ddyfais yn ei feddiant a oedd yn cael ei defnyddio i anfon negeseuon testun mewn swmp yn cynnig crac cocên a heroin.
Bu modd iddynt gysylltu ffôn symudol personol Pope â ffôn y llinell gyffuriau ar deithiau ledled y DU o Abertawe.
Roedd swyddogion yn gobeithio eu bod wedi chwalu llinell gyffuriau Oscar yn 2024, pan gafodd dyn arall – y mae Joshua Pope yn ei adnabod – ei euogfarnu a'i ddedfrydu i saith mlynedd a hanner yn y carchar.
Ond yn fuan, daeth yn amlwg bod y llinell wedi parhau i weithredu, ond gyda Joshua Pope wrth y llyw y tro hwn.
Cafodd ei gyhuddo o ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin a aeth ymlaen i bledi'n euog.
Ar 30 Gorffennaf, ymddangosodd Joshua Pope, 30 oed o Fryn Parc, Treforys gerbron Llys y Goron Abertawe lle cafodd ei garcharu am dair blynedd.

Joshua Pope