Stamp amser presennol: 20/05/25 23:16:59
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Yn y Dwylo Anghywir: Ymestyn y cyfnod ildio arfau tanio

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 15:42 02/04/25

Yn dilyn ymateb cadarnhaol iawn gan y cyhoedd, mae Heddlu De Cymru yn ymestyn ei ymgyrch ildio arfau tanio.

Yn ystod mis Chwefror, cefnogodd yr heddlu ymgyrch mis o hyd i annog y cyhoedd i ildio arfau tanio i'r heddlu i'w hatal rhag cael eu defnyddio gan y dwylo anghywir.

Cafodd cyfanswm o 160 o eitemau eu hildio yn ne Cymru i gael eu dinistrio'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.

Ymhlith yr eitemau hynny roedd 32 o ynnau tanio ergydion gwag gydag awyrell ar y top, a ddaeth yn anghyfreithlon yn dilyn newid i ddeddfwriaeth yn ddiweddar, a chwe arf tanio anghyfreithlon arall.

Ildiwyd 25 o arfau tanio wedi'u trwyddedu yn ogystal ag arfau tanio eraill fel arfau aer a gynnau BB.

Diolchodd y Ditectif Brif Arolygydd Chris Williams, arweinydd troseddau drylliau Heddlu De Cymru, y cymunedau lleol am gefnogi'r ymgyrch.

"Roedd ymateb y cyhoedd i'n cyfnod ildio Yn y Dwylo Anghywir yn galonogol iawn, a hoffem ymestyn y cyfnod i barhau i godi'r ymwybyddiaeth honno.

"Yn ffodus, mae cyfraddau troseddau drylliau yn ne Cymru yn parhau i fod yn isel iawn, ond mae llofruddiaeth drasig ddiweddar yn un o'n cymunedau yn dangos pa mor ddinistriol gall y canlyniadau fod os yw arfau tanio ym meddiant y bobl anghywir.

"Yn ogystal ag arfau tanio traddodiadol fel drylliau a phistolau, gall arfau tanio ffug, fel gwn BB neu arf aer, gael eu defnyddio i achosi anaf neu gyflawni troseddau difrifol.

"Ni allwn fod yn hunanfodlon, mae un digwyddiad sy'n cynnwys arf tanio yn un yn ormod, ac felly rwy'n erfyn ar y gymuned leol i barhau i weithio gyda ni i gadw ein cymunedau'n ddiogel rhag troseddau drylliau."

Er bod cyfnodau ildio yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddeddfwriaeth arfau tanio ac yn gyfle i ni gyd chwarae ein rhan er mwyn cadw ein cymunedau'n ddiogel, nid oes rhaid i aelodau'r cyhoedd aros am ymgyrch ildio er mwyn cyflwyno arf.

Yn ystod cyfnod estynedig y cyfnod ildio, sy'n rhedeg nes diwedd mis Ebrill, gellir mynd ag arfau tanio, bwledi a chetris ac ategolion i'r gorsafoedd canlynol i'w gwaredu'n ddiogel:

  • Canol Abertawe
  • Castell-nedd
  • Bae Caerdydd
  • Caerdydd Canolog
  • Y Barri
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Merthyr Tudful
  • Pontypridd

 

Ateb eich cwestiynau

Ai yn ystod mis Chwefror yn unig y gallaf ildio arf?

Na. Gellir mynd ag unrhyw arf i orsaf heddlu unrhyw bryd. Diben y cyfnodau ildio hyn yw talu sylw i beryglon troseddau drylliau a thynnu sylw at y ffyrdd cywir o'u gwaredu.

Alla i fynd i'r orsaf heddlu yn cario gwn? Beth os caf fy stopio ar y ffordd?

Dylai unrhyw un fydd yn cael ei stopio ar ei ffordd i orsaf heddlu yn cario gwn i'w ildio roi gwybod i'r swyddog fod ganddo wn yn ei feddiant ac esbonio ei fod am ei ildio. Bydd swyddogion yn ymwybodol o'r cyfnod ildio a gallai'r person ildio'r arf tanio i'r swyddog hwnnw.

Mae gennyf arf tanio i'w ildio, ond nid wyf am / ni allaf ei gludo i orsaf heddlu. Beth ddylwn i ei wneud?

Dylai unrhyw un sydd am ildio ond na all fynd i orsaf heddlu neu sy'n pryderu am gludo arf tanio/bwledi a chetris gysylltu â'n hystafell reoli i gael cyngor pellach. Ffyrdd o gysylltu â ni.

Ai dim ond gynnau y gellir eu hildio yn ystod y cyfnod ildio?

Na. Tra bod y cyfnod ildio yn canolbwyntio ar droseddau drylliau, byddem yn annog unrhyw un sydd ag arf tanio neu arf posibl (ee. cyllyll cegin nad yw eu hangen mwyach) i ddod â nhw i mewn i unrhyw un o'r gorsafoedd penodol i'w waredu'n ddiogel.

Os byddaf yn cyflwyno arf tanio, ydw i'n cael fy ngwarchod gan unrhyw ganlyniadau pe bai'r arf hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn trosedd?

Bydd unrhyw un fydd yn ildio arf tanio neu unrhyw arf arall yn cael imiwnedd ar gyfer bod â'r arf yn ei feddiant ar adeg ildio. Bydd swyddogion ymholiadau gorsaf yn gofyn cwestiynau er mwyn cwblhau'r ffurflen ildio arf tanio. Fodd bynnag nid oes rhwymedigaeth i ateb y cwestiynau a gall yr unigolyn fydd yn ildio ddewis ei ildio'n ddienw.

Fodd bynnag, mae dyletswydd ar Heddlu De Cymru i ymchwilio i hanes yr arf tanio er mwyn nodi a yw'n gysylltiedig â throsedd ac i ddwyn y rheini sy'n rhan o hyn i gyfrif.

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.