Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ychydig cyn 5pm ddydd Mawrth 1 Ebrill 2025 ar yr A48 ger Tresimwn ym Mro Morgannwg, a arweiniodd at farwolaeth tri dyn.
Mae dau o'r dynion wedi cael eu henwi'n Lawrence Howells, 51 oed o Borthcawl, a Barrie John, 48 oed o Lynrhedynog.
Mae eu teuluoedd wedi talu'r teyrngedau canlynol iddynt:
Dywedodd teulu Lawrence Howells:
“Fel teulu, rydym wedi cael ein llorio ac rydym yn gofyn am amser i alaru a phrosesu colli Lawrence. Cwsg mewn hedd, Law. Rydym hefyd yn meddwl am y teuluoedd eraill y mae'r ddamwain drasig hon wedi effeithio arnynt.”
Dywedodd teulu Barrie John:
“Rwyf wedi colli fy mab, y cymeriad mwyaf o'm pedwar plentyn. Mae'n rhyfedd sut mae'r rhai sy'n achosi'r drafferth fwyaf yn gadael yr ôl mwyaf ar eich calon yn y pen draw. Ef oedd yr un i gorddi'r dyfroedd bob amser, yn profi fy amynedd yn barhaus gyda'i gampau drygionus. Ond roedd ganddo hefyd ffordd o wneud i mi chwerthin pan oedd angen hynny arnaf fwyaf. Roedd ei wên, a'r ffordd y byddai'n sleifio o gwmpas yn achosi anrhefn ac yna'n ymddwyn fel pe bai dim wedi digwydd, yn gwneud bywyd yn anodd ei ragweld ond byth yn ddiflas.
“Er gwaethaf ei ffyrdd trafferthus, daeth â chymaint o fywyd a chwerthin i bopeth. Roedd ei egni yn heintus, a byddai bob amser yn dweud jôcs ac yn tynnu coes. Nawr, mae wedi mynd, ac mae'r tawelwch yn llethol. Mae ei golli wedi gadael bwlch yn fy nghalon na all dim ei lenwi. Rwy'n parhau i ddisgwyl clywed ei lais a gweld ei wyneb, ond atgofion yw'r cyfan sydd ar ôl. Mae'r tŷ yn teimlo'n fwy gwag hebddo, er fy mod yn gwybod bod ei ysbryd ym mhob cornel, yn fy atgoffa o'r adegau pan fyddai'n gwneud i ni chwerthin neu ysgwyd ein pennau mewn anghrediniaeth.
“Mae amser yn mynd yn ei flaen, ond mae'r boen yn parhau. Nid yw galar byth yn gwella'n llwyr; mae'n dod yn rhywbeth rydych yn dysgu i ymdopi ag ef. Byddwn yn gwneud unrhyw beth i'w glywed yn cwyno unwaith eto. Yr eiliadau bach hynny, ei lais, ei synnwyr digrifwch, dyna'r pethau rwy'n eu colli fwyaf. Er bod y tristwch yn llethol, mae llygedyn o obaith bod ei ysbryd yn fyw yn y cariad a'r atgofion sydd gennym.
Ychwanegodd chwaer Barrie, Donna:
“Mae'n anodd cyfleu mewn geiriau yr effaith y mae hyn wedi ei chael arnaf, gan wybod na fyddaf byth yn dy weld nac yn clywed dy lais eto, ond ni fyddaf byth yn anghofio ein hatgofion gyda Nigel, dy nithod a dy nai, a'r ffordd roeddet yn gwneud i bawb chwerthin. Doedd tyfu i fyny yn dy gwmni ddim yn fêl i gyd, ond byddwn yn gwneud popeth eto pe bawn yn cael y cyfle. Ond nawr, dyma dy amser i orffwys. Rwy'n dy garu di gymaint. Dy chwaer fach, Donna.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio at unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a all fod â deunydd fideo camera dashfwrdd i gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2500102402.