Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Rondda Cynon Taf wedi cael ei garcharu ar ôl i swyddogion yr heddlu ei weld yn delio cyffuriau mewn ardal chwarae ym Mhontyclun.
Ar 30 Tachwedd 2024, bu swyddogion o'r Uned Troseddau Cyfundrefnol yn dyst i ddêl cyffuriau mewn ardal chwarae ar Heol yr Orsaf, Pontyclun.
Cafodd y dyn ei stopio a'i adnabod fel Courtney Jones, 38 oed o Donysguboriau. Cafodd ei chwilio lle canfuwyd bod ganddo chwe bag o gocên yn ei feddiant. Cafodd Jones ei arestio yn dilyn y chwiliad, ac yn ddiweddarach, gwnaeth swyddogion chwilio ei gyfeiriad cartref a oedd nepell o'r parc.
Yn y cyfeiriad, daeth swyddogion o hyd i swm mawr o gyffuriau gan gynnwys 40 o fagiau ychwanegol o gocên, amffetamin, MDMA a benzocaine.
Ymddangosodd Jones gerbron Llys y Goron Caerdydd lle plediodd yn euog i fod â chyffur Dosbarth A yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi – sef cocên ac MDMA, bod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i gyflenwi – sef amffetamin, a chaffael eiddo troseddol.
Ddydd Gwener 4 Ebrill 2025, cafodd Jones ei ddedfrydu i dair blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd y Rhingyll Lia Jones:
“Roedd Jones yn cyflenwi cyffuriau yn anghyfreithlon i bobl yn ei gymuned leol heb ystyried eu llesiant.
“Fel yn achos delwyr cyffuriau eraill, bydd yn cael ei haeddiant drwy gael ei garcharu am sawl blwyddyn.”