Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae mam wedi cael ei rhoi o dan orchymyn ysbyty ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad ei mab chwech oed a'r ymgais i lofruddio ei thad mewn digwyddiad yng Ngendros, Abertawe, y llynedd.
Plediodd Karolina Zurawska, 42 oed o ardal Gendros, ar y sail nad oedd yn llawn gyfrifol, a gafodd ei dderbyn gan yr erlyniad ar sail adroddiadau gan seiciatryddion fforensig.
Yn gynharach ar yr un diwrnod – Dydd Iau 29 Awst – roedd Zurawska wedi ceisio llofruddio ei thad 67 oed, Krzysztof Siwy.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Matthew Davies: “Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig a thrallodus iawn sydd wedi cael effaith ddifrifol ar y gymuned gyfan yng Ngendros, yn ogystal â'r staff a'r disgyblion yn ysgol Aleksander. Bydd pob un ohonynt wedi'u llorio o glywed am farwolaeth Aleksander.
“Roedd y gymuned leol yng Ngendros yn anhygoel o ran ei chefnogaeth i'n hymchwiliad yn ystod cyfnod a oedd yn anodd iawn.
“Mae ein cydymdeimladau o hyd gyda theulu a ffrindiau Aleksander.”