Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ffigurau diweddaraf Ymgyrch Sceptre – mynd i'r afael â throseddau'n ymwneud â chyllyll ledled Caerdydd
Mae cyffuriau ac arian parod gwerth mwy na £3 miliwn wedi cael eu hatafaelu dros y 12 mis diwethaf gan un o dimau arbenigol Heddlu De Cymru drwy amharu ar y rhai sy'n cyflawni troseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol.
Hefyd, ymgyrch gan HDC sy'n mynd i'r afael â throseddau cyllyll yw 'Ddim yr Un', gyda'r nod o leihau nifer y troseddau cyllyll a nifer y bobl sy'n eu cyflawni.
Nod yr ymgyrch a arweinir gan bartneriaeth yw addysgu plant a phobl ifanc 11-16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Esyr Jones, arweinydd yr heddlu ar gyfer mynd i'r afael â throseddau difrifol: “Mae'r ymdrech hon sy'n cynnwys gweithgarwch gorfodi ac addysg yn helpu i gadw ein strydoedd yn ddiogel a diogelu'r rhai mae pobl yn camfanteisio arnynt.
“Mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos sut mae Tîm Ymgyrch Sceptre yn parhau i fynd ar ôl y rhai sy'n gysylltiedig â throseddau difrifol a throseddoldeb cysylltiedig.”
Ers dechrau mis Ebrill 2024, mae Tîm Ymgyrch Sceptre yng Nghaerdydd wedi:
Arestio 115 o bobl yr amheuwyd eu bod yn gysylltiedig â thrais a chamfanteisio troseddol.
Mynd â 22 o arfau oddi ar y strydoedd.
Atafaelu gwerth £2.8m o gyffuriau a £65k mewn arian parod.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Jones: “Mae ardal De Cymru yn lle diogel i fyw a gweithio ac i ymweld â hi, ond ni fyddwn byth yn llaesu dwylo. Mae mynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyllyll a thrais difrifol yn un o brif flaenoriaethau Heddlu De Cymru.
“Ac er ein bod yn gwybod y gall fod yn anodd codi eich llais os ydych yn meddwl bod rhywun yn cario cyllell, drwy wneud hynny, gallwch helpu i sicrhau na ellir defnyddio'r arf hwnnw i achosi niwed difrifol, neu waeth. Yn y pen draw, mae'n golygu y gallech achub bywyd.”
Mae gwaith Tîm Ymgyrch Sceptre yn cael ei ategu gan ymgyrchoedd arbenigol ymateb, yn y gymdogaeth, a thimau eraill yr heddlu.
Gallwn weithredu ar y wybodaeth a gawn gan y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny'n rheolaidd, felly parhewch i gysylltu a chydweithio â ni.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.