Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Daniel Wide, 33 oed, o Lanisien, wedi cael ei ddedfrydu i 15 mlynedd gan gynnwys 10 mlynedd yn y carchar a 5 mlynedd ar drwydded estynedig.
Plediodd yn euog i dreisio ac ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad, a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, 8 Ebrill.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Wehab Mohamed, o Heddlu De Cymru:
“Cafodd gweithredoedd Wide effaith enbyd ar y dioddefwr sydd wedi bod yn hynod ddewr yn siarad yn agored, yn cysylltu â'r heddlu, ac yn mynd drwy'r broses cyfiawnder troseddol.
“Arweiniodd ei thystiolaeth a'n hymrwymiad i'r ymchwiliad hwn at ddau ble euog.
“Gobeithio y bydd y canlyniad yn rhoi rhywfaint o gysur i'r dioddefwr ac yn ei galluogi i ddechrau'r broses o adfer ei hyder.”
Mae gan Heddlu De Cymru dimau ymchwilio arbenigol i drais ar draws ardal yr heddlu, sy'n ymroddedig i ymchwilio i drais a throseddau rhywiol difrifol.
Mae hyn yn sicrhau bod y dioddefwyr yn cael y gwasanaeth, y cymorth a'r canlyniadau y maent yn eu haeddu drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol.
Ceisiwch help a chymorth os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Fyddwn ni ddim yn eich barnu: byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/riportiwch/alpha-v1/cyngor/treisio-ymosod-rhywiol-a-throseddau-rhywiol-eraill/
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.